Cytundeb gwerth £326m yn diogelu swyddi

  • 11 Ebrill 2012
Airbus a330
Image caption Mae ffatri Airbus ym Mrychdyn yn gwneud adenydd i awyrennau ac yn cyflogi 6,000 o bobl.

Mae swyddi yn ffatri Airbus ym Mrychdyn yn Sir y Fflint wedi eu diogelu yn dilyn cytundeb gwerth £326 miliwn rhwng Airbus a chwmni awyrennau yn Indonesia.

Mae cwmni awyrennau Garuda Indonesia wedi archebu 11 awyren A330.

Ffatri Airbus ym Mrychdyn sy'n gwneud adenydd yr awyrennau, ac mae 6,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno.

Cyhoeddodd Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig, David Cameron, y cytundeb pan oedd ar ei daith fasnach i Ddwyrain a De ddwyrain Asia ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Cameron fod y cytundeb yn "newyddion da i'r diwydiant awyrennau yn y DU".

"Bydd yn diogelu swyddi yn yr adran gynllunio ger Bryste a'r ffatri ym Mrychdyn yng Ngogledd Cymru," ychwanegodd.

"Mae'n dangos ymddiriedaeth yn niwydiannau gweithgynhyrchu Prydain."

Mae'r cytundeb yn hwb i'r safle ym Mrychdyn chwe mis wedi i ffatri newydd gwerth £400 miliwn gael ei hagor yn swyddogol yno.

Mae'r gwaith o adeiladu'r adenydd ffibr carbon ar gyfer awyren newydd A350 yn cael ei wneud yn yr adeilad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.