Cwest Brynle Williams i ystyried 'esgeulustod meddygol'

  • 10 Ebrill 2012
Brynle Williams Image copyright Not Specified
Image caption Daeth Brynle Williams i'r amlwg fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tannwydd uchel

Fe fydd y cwest i farwolaeth cyn-aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Cymru yn ystyried y posibilrwydd o esgeulusodd meddygol.

Bu farw Brynle Williams, o Gilcain ger Yr Wyddgrug, o ganser ym mis Ebrill 2011.

Roedd o'n 62 oed.

Mae disgwyl i'r cwest glywed tystiolaeth gan feddygon fu'n rhoi triniaeth iddo fo.

Fe fydd y cwest yn cael ei gynnal ym mis Mai neu fis Fehefin.

Daeth Mr Williams i lygad y cyhoedd fel ymgyrchydd yn erbyn prisiau tanwydd uchel yn 2000 cyn troi i gynrychioli'r gogledd yn 2003.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.