Dau ddyn i wynebu achos llofruddiaeth newydd

Tony Singh
Tony Singh gyda'i ferch (chwith), a phan oedd yn iau

Bydd yn rhaid i ddau ddyn sy'n gwadu llofruddio tad 24 oed yng Nghasnewydd wynebu achos newydd.

Cafwyd hyd i Tony Singh, fu farw o anafiadau i'w ben, yn ei fflat yn Ffordd Bryngwyn, Casnewydd ar Dachwedd 15 2010.

Cafodd rheithgor achos Shahid Rafiq, 37 oed, a Karl Drummond, 37 oed, yn Llys y Goron Caerdydd eu rhyddhau o'u dyletswyddau ar ôl iddyn nhw fethu â chytuno ar ddyfarniad.

Cafodd y rheithgor George Glover, 40 oed, oedd hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Singh, yn ddieuog ddydd Gwener diwethaf.

Cafwyd y tri'n ddieuog o gynllwynio i ladrata o Mr Singh.

Er ei bod yn ddiwrnod o wyliau roedd y llys yn eistedd ar ddydd Gwener y Groglith.

Nid oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer yr achos newydd.

Mae Mr Rafiq a Mr Drummond wedi'u cadw yn y ddalfa.