Caerdydd 1-1 Watford

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Kenny Miller sgoriodd gôl gynta'r gêm wedi 45 munud

Caerdydd 1-1 Watford

Mae Caerdydd yn dal yn y chwech ucha' yn y Bencampwriaeth er iddynt fethu curo Watford yn Stadiwm Caerdydd ddydd Llun.

Cafodd gobeithion yr Adar Gleision o chwarae yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor bigiad cas gan y Cacwn pan sgoriodd Nyron Nosworthy gyda'i ben gyda dim ond saith munud o'r ornest yn weddill.

Roedd Kenny Miller wedi sgorio ei gôl gyntaf i'r Adar Gleision ers 15 gêm pan rwydodd gyda'i ben yn dilyn croesiad gan Don Cowie ym munud ola'r hanner cyntaf.

Tarodd Miller y postyn gydag ergyd yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Watford fanteisio ar berfformiad nerfus gan y tîm cartref.

Hon oedd y chweched gêm yn olynol i Gaerdydd fethu ennill yn Stadiwm Caerdydd ac fe fydd Brighton yn cymryd lle'r Adar Gleision yn y chwech uchaf os byddant yn curo Reading nos Fawrth.

Caerdydd: Marshall,McNaughton,Taylor,Hudson,Turner, Whittingham,Cowie,Conway,Gunnarsson,McPhail,Miller.

Eilyddion:Heaton,Kiss,Lawrence,Harris,Earnshaw

Watford: Kuszczak,Dickinson,Taylor,Doyley,Nosworthy,Eustace,Buaben,Murray,Assombalonga,Hogg,Deeney

Eilyddion:Loach, Bennett, Whichelow,Iwelumo,Garner

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Southampton 42 +36 82
2. Reading 41 +26 79
3. West Ham 42 +25 76
4. Birmingham 42 +25 70
5. Blackpool 42 +15 67
6. CAERDYDD 42 +9 65
7. Brighton 42 +7 63
8. Middlesbrough 42 0 63