Marwolaeth: Cyhuddo dau o drosedd gyrru

  • 6 Ebrill 2012

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo dau ddyn lleol o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ar ôl marwolaeth dyn 22 oed ar Ynys Môn fis Tachwedd y llynedd.

Bu farw Tom Wyn Roberts ar ôl gwrthdrawiad ar yr A5114 yn Llangefni.

Roedd yn cerdded ar y pryd.

Cafodd dyn 22 oed ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a chafodd dyn 18 oed ei gyhuddo o'r un drosedd.

Fe fydd y ddau gerbron Ynadon Caernarfon yn ddiweddarach yn y mis.