Dim arian loteri ar gyfer pier Bae Colwyn

  • 3 Ebrill 2012
Glan môr Bae Colwyn
Daeth y pier, sy'n 112 oed, i ofal Cyngor Conwy ar Fawrth 28.

Mae cais cyngor ar gyfer £4.9 miliwn o arian loteri er mwyn adfer pier hanesyddol wedi ei wrthod.

Dywed Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei fod wedi ystyried cais Cyngor Conwy ar gyfer Pier Bae Colwyn ond nad oedd digon o arian ar gael yn y gronfa.

Fe wnaeth cyngor Conwy hawlio perchnogaeth o'r pier Fictorianaidd ar ôl i Lywodraeth Cymru ei etifeddu gan Stad y Goron.

Dywed cyngor Conwy y byddant yn parhau i edrych am ffyrdd i atgyweirio ac adfer yr adeilad rhestredig gradd II.

Canolfan dwristiaeth

"Rydym yn siomedig, ond mae modd gwneud cais arall yn y dyfodol," meddai'r cyngor.

"Yr hyn sy'n bwysig yw mai'r cyngor sydd â gofal am y pier, fel bod modd gwella cyflwr a golwg y safle."

Bu pier Bae Colwyn ynghau ers 2008

Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri y byddant yn trefnu cyfarfod â'r Cyngor er mwyn trafod dyfodol y prosiect.

"Roedd cynlluniau llawn dychymyg y cyngor i drawsnewid y Pier Fictorianaidd yn ganolfan gymunedol a chanolfan dwristiaeth wedi creu argraff arnom," meddai Jennifer Stewart, pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.

Ond ychwanegodd: "Roedd nifer y ceisiadau am arian y mis hwn yn fwy na'r hyn oedd ar gael yn y gronfa.

"Roedd safon y ceisiadau yn uchel dros ben, ac yn anffodus doedd yr arian ddim ar gael i gefnogi pob prosiect."

Daeth y pier, sy'n 112 oed, i ofal Cyngor Conwy ar Fawrth 28.

Roedd y cynigion i adnewyddu'r pier yn cynnwys, tŷ bwyta siopa a theatr.