Cyhuddo dyn wedi llofruddiaeth mam a'i mab ger Tremadog

  • 1 Ebrill 2012
Yr heddlu tu allan i'r tŷ yn Rhes Glanmorfa ger Tremadog
Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ nos Wener am 9.20pm

Mae dyn 42 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio mam a'i mab mewn tŷ ger Porthmadog.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod cyrff y ddau wedi eu canfod yn y tŷ ym Mhwllgoleulas rhwng Tremadog a Phenmorfa tua 9.20pm nos Wener.

Ychwanegodd yr heddlu bod llofruddiaeth dynes 34 oed a phlentyn 2 oed yn ymwneud â digwyddiad domestig.

Mae pobl leol a ffrindiau wedi enwi'r fam fel Suzanne Jones a'i mab William, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Will.

Dydi Heddlu Gogledd Cymru ddim wedi enwi'r dyn sydd wedi ei gyhuddo.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r hyn a ddigwyddodd yn Rhes Glanmorfa nos Wener.

Dydi'r ddau a fu farw ddim wedi cael eu hadnabod yn swyddogol eto.

Cafodd teuluoedd y rhai a fu farw wybod am y digwyddiad ac mae'r heddlu yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw.

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn ymdrin â digwyddiad difrifol.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un i gysylltu â nhw os oedden nhw ger Rhes Glanmorfa nos Wener neu sydd ag unrhyw wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd.