Cerddor o Mali yn poeni am ddychwelyd i'w wlad

Toumani Diabaté a Catrin Finch
Image caption Bu Catrin Finch a Toumani Diabaté yn ymarfer gyda'i gilydd cyn cyngerdd yn Wrecsam

Mae cerddor o Mali yn poeni na fydd yn medru dychwelyd i'w wlad oherwydd coup milwrol yn y wlad.

Roedd Toumani Diabaté newydd gyrraedd Paris yr wythnos diwethaf pan glywodd fod Arlywydd Mali, Amadou Toumani Toure, wedi ei ddisodli.

Mae'r milwyr wedi cael rhybudd i ildio grym cyn dydd Llun.

Mae Mr Diabaté yn pryderu'n arbennig am ei deulu, sy'n dal yn Mali, ac yn byw ger y plasty arlywyddol.

"Diolch byth, mae'r teulu yn iawn ac rwy' mewn cysylltiad â nhw yn gyson er mwyn gwybod be sy'n digwydd," meddai.

"Ond mae'n anodd iawn pan rwy'n gweithio mewn gwlad sy'n bell i ffwrdd.

"Gyda'r plant hefyd mae'n anodd iawn."

Offeryn traddodiadol

Mae yw Mr Diabaté. yn chwaraewr offeryn o'r enw 'kora'.

Mae ar ymweliad â Phrydain er mwyn perfformio mewn cyfres o gyngherddau gyda'r delynores Catrin Finch.

Offeryn traddodiadol, yn debyg i delyn neu liwt sy'n cael ei chwarae yng ngorllewin Affrica yw'r kora.

Image caption Offeryn traddodiadol sydd yn cael ei chwarae yng ngorllewin Affrica yw'r kora

Tan y coup milwrol yr wythnos diwethaf roedd Mali wedi bod yn ddemocratiaeth am 20 mlynedd.

Mae'r bobl yn rhanedig, rhai yn gwrthwynebu'r llywodraeth filwrol newydd a rhai sy'n eu cefnogi.

Ar ôl meddiannu'r maes awyr fe wnaethon nhw lwyddo i atal arweinwyr gwledydd Gorllewin Affrica rhag glanio yno.

Er y sefyllfa ansicr, mae Mr Diabaté yn gobeithio dychwelyd at ei deulu.

"Dwi ddim yn berson gwleidyddol," meddai.

"Artist a pherson diwylliannol ydw i ac rwy'n dod o deulu felly.

"Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi gwneud dim byd o'i le.

"Rwy'n llysgennad dros ddiwylliant fy ngwlad ac felly fe ddylwn i fynd adre."

Mae Toumani Diabaté a Catrin Finch yn chwarae yn Neuadd William Aston yn Wrecsam nos Wener ac yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe ddydd Sadwrn Mawrth 31 am 7.30pm.

Mae'n gobeithio bod yn ôl gyda'i deulu yn Bamako nos Sul.