Cleverly i amddiffyn ei goron ym mis Ebrill

Nathan Cleverly
Mae Cleverlywedi ennill 24 gornest heb golli

Fe fydd Nathan Cleverly yn amddiffyn coron is-drwm WBO y byd ym mis Ebrill.

Ei wrthwynebydd fydd Robin Krasniqi o Serbia a hynny yn Neuadd Albert ar Ebrill 28.

Hwn fydd y pedwerydd tro i'r Cymro 25 oed o Gefn Fforest ger y Coed-duon amddiffyn ei bencampwriaeth.

Bydd rhaid i'r enillydd wynebu her arall ymhen 120 diwrnod o'r ornest yn Llundain.

WBC

Mae Cleverley wedi ennill bob un o'i 24 gornest, ac mae Krasniqi wedi ennill 37 a cholli dwy.

Gobaith yr hyrwyddwr Frank Warren yw y bydd Cleverley yn wynebu'r Americanwr Bernard Hopkins erbyn diwedd yr haf.

Mewn cyfnod o 23 mlynedd mae Hopkins wedi ennill 55 a cholli dim ond pump.

Fe fydd o'n wynebu Chad Dawson yn Atlantic City am bencampwriaeth is-drwm WBC y byd ar yr un noson fydd Cleverley yn ymladd â Krasniqi.

"Fe fydd hwn yn brawf anodd i mi oherwydd does neb wedi'i stopio yn y cylch hyd yn hyn," meddai Cleverley

"Felly rwy'n paratoi ar gyfer 12 rownd galed."