Artist yn agor drysau ei stiwdio anghysbell

Philippa Jacobs Image copyright Other
Image caption Mae stiwdio Philippa Jacobs ar glogwyn ar Ynys Môn

Mae artist sy'n gweithio mewn lle anghysbell yn agor ei stiwdio i'r cyhoedd dros benwythnos y Pasg.

Ar droed mae'n cymryd 20 munud i gyrraedd stiwdio Philippa Jacobs mewn hen orsaf signal niwl o'r 19eg Ganrif ar Ynys Arw, Ynys Môn.

Mae modd ymweld â'r stiwdio fel rhan o ddigwyddiad Stiwdios ac Orielau Agored Fforwm Gelf Ynys Môn.

Dywedodd Philippa ei bod wedi byw yno am 23 blynedd er gwaethaf dim prif gyflenwad dŵr, dim gwasanaeth post na chasgliadau sbwriel.

Môr Iwerddon

"Fe wnes i symud yma oherwydd fy mod angen yr unigrwydd a'r llonyddwch i feddwl," meddai.

"Mae'r lle yn arbennig ac unigryw, ac mae'n fraint cael byw yma."

Thema ei harddangosfa eleni yw Môr Iwerddon.

"Mae'r môr bron a fy amgylchynu i yma ac mae fy stiwdio yn edrych allan at oleudy'r Moelrhoniaid.

"Mae'n wynebu tua'r gogledd, y golau gorau ar gyfer paentio."

Image copyright Other
Image caption Mae stiwdio'r artist mewn hen orsaf signal niwl

Efallai mai dyma'r cyfle olaf i ymweld â'r stiwdio gan fod yr artist yn bwriadu ei gwerthu.

"Rwy wedi mwynhau pob munud yma a'r unig reswm rwy yn ei rhoi ar y farchnad yw fy oedran," meddai.

Mae'r stiwdio ar agor rhwng 2pm a 5pm dros benwythnos y Pasg ac mae digwyddiad stiwdios agored Ynys Môn yn parhau tan ddydd Sul, Ebrill 15.

Bydd arddangosfeydd yn cael eu cynnal hefyd yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, a Chanolfan David Hughes, Biwmares.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.