Plaid Cymru: 'Amser i ledaenu'r gair'

  • 24 Mawrth 2012
Alun Ffred Jones
"Nawr yw'r amser i gyrraedd y strydoedd" medd Alun Ffred Jones AC

Mae Plaid Cymru wedi profi ei allu i redeg cynghorau lleol, bydd cynhadledd wanwyn y blaid yn clywed ar ddydd Sadwrn.

Bydd Alun Ffred Jones yn ceisio ysbrydoli aelodau'r blaid cyn etholiadau lleol mis Mai.

Mae'r blaid yn gobeithio y gallant argyhoeddi pleidleiswyr bod eu cynghorwyr yn "mynd y filltir ychwanegol".

Yr etholiadau lleol ar Fai 3 fydd prawf etholiadol gyntaf yr arweinydd newydd Leanne Wood.

Cynyddodd Plaid Cymru nifer eu cynghorwyr yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2008 ac mae'n arwain dau gyngor - Caerffili a Gwynedd.

Ond tawelu disgwyliadau mae'r blaid cyn yr etholiadau wrth law, gan nodi eu bod nhw'n dod ymhen chwe wythnos o arweinyddiaeth Ms Wood.

Collodd Plaid Cymru seddi yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd, gan lithro i'r trydydd safle yn y Senedd y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr.

Mr Jones - cyn arweinydd Cyngor Gwynedd - sydd yn rhedeg ymgyrch etholiad lleol y blaid.

'Lledaenu'r gair'

Wrth siarad yng nghae ras Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin, bydd yn dweud: "Mae Plaid Cymru wedi profi ein bod yn gallu rheoli'n effeithiol ar lefel leol.

"Nawr yw'r amser i ledaenu'r gair o sut y bydd Plaid Cymru bob amser yn mynd yr ail filltir ar gyfer ein cymunedau.

"Nawr yw'r amser i gyrraedd y strydoedd ac i ennill dros Gymru."

Yn ei haraith gyntaf fel arweinydd Plaid Cymru ar ddydd Gwener, dywedodd Ms Wood fod y daith tuag at "annibyniaeth real yn dechrau nawr ac yn y fan a'r lle".

Dywedodd Ms Wood fod "gormod o arian yn gadael ein heconomïau lleol, ac yn gadael Cymru".

"Rhaid i ni ddatblygu cynllun i atal hyn. Mae'n rhaid i ni ddatblygu cynllun i amddiffyn ein cymunedau."

Ms Wood yw'r fenyw gyntaf i arwain Plaid Cymru ar ôl iddi guro Elin Jones a'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn ras yr arweinyddiaeth.

Wrth siarad â newyddiadurwyr cyn ei haraith, dywedodd y byddai'n defnyddio'r achlysur i gyflwyno ei hun i bleidleiswyr.

Fel dysgwr Cymraeg o'r Rhondda, mae ei chefnogwyr yn dweud y bydd hi'n gallu cymryd pleidleisiau i ffwrdd o'r Blaid Lafur yn ei gadarnleoedd yng nghymoedd De Cymru.

Yn ei haraith, nododd ei bod yn byw yn yr un pentref lle cafodd ei magu, i lawr y ffordd o'i rhieni.