Haint: Ysgol gynradd yn cau

Ysgol gynradd (cyffredinol) Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r haint, sy'n achosi dolur rhydd a chwydu, wedi effeithio ar 145 o blant

Mae ysgol gynradd yn cau'n wirfoddol ddydd Gwener am fod haint yn effeithio ar 157 o blant a staff.

Y mis hwn mae'r haint, sy'n achosi dolur rhydd a chwydu, wedi effeithio ar 145 o blant a 12 o staff yn Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn Llambed.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Ceredigion eu bod yn ymchwilio.

Mae pawb yn yr ysgol, lle mae 368 o blant a 56 o athrawon, wedi cael cyngor i ddarparu samplau os ydyn nhw'n datblygu symptomau.

'Yn ddifrifol'

"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r achos," meddai Dr Jörg Hoffmann, ymgynghorydd rheoli clefydau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Does neb wedi gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd hyn.

"Serch hynny, mae'r salwch yn gallu bod yn ddifrifol, yn enwedig mewn plant, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dod o hyd i'r achos."

Bydd diwrnod hyfforddi mewn swydd yn yr ysgol ddydd Llun.

Dylai unrhyw un sy'n poeni gysylltu â'r meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.

Straeon perthnasol