£50m i dargedu 'gwyddonwyr o fri'

  • 12 Mawrth 2012
Hylif yn cael ei arllwys i mewn i diwb profi
Mae Prifysgol Cymru wedi cael gorchymyn i fod yn fwy darbwyllol wrth wneud ceisiadau am arian o lywodraeth y DU

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £50 miliwn er mwyn denu 'gwyddonwyr o fri' i Gymru er mwyn hybu ymchwil a'r economi.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai'r gronfa'n cael ei defnyddio i annog gwyddonwyr i symud i Gymru i weithio a hybu ymchwil a'r economi.

Bydd yr arian yn talu am offer arbenigol ac i godi cyflogau i lefelau y gallai academyddion blaenllaw fedru disgwyl mewn lleoedd eraill.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gosod nod i Gymru i ennill 5% o arian ymchwil cystadleuol yn y DU.

Uchelgeisiol

Y llynedd fe ddywedodd eu prif ymgynghorydd ariannol, yr Athro John Harries, ei fod yn pryderu am berfformiad Cymru wrth geisio denu incwm ymchwil.

Dywedodd y dylai prifysgolion fod yn fwy darbwyllol wrth wneud ceisiadau am arian gan lywodraeth y DU, a thargedu timau ymchwil o fri.

Yn ôl Mr Jones, mae Llywodraeth Cymru wedi creu cynllun Sêr Cymru er mwyn taclo'r diffyg.

Wrth siarad ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg dywedodd y dylai prifysgolion Cymru ddefnyddio'r gronfa i fod yn fwy uchelgeisiol a chydweithredol wrth wneud ceisiadau am arian.

"Mae gan Gymru gryfderau gwyddonol gwych, ond fel y dywedodd y prif ymgynghorydd gwyddonol fe allwn ni fod yn gwneud yn well," meddai.

"Mae yma gyfle i'n prifysgolion weithio gyda'r timau ymchwil gorau ar draws y byd a cheisio am ragoriaeth.

"Os gall ein prifysgolion ennill 5% o'r arian ymchwil cystadleuol o Gyngor Ymchwil y DU, byddai hynny'n dod â £27 miliwn i mewn i'n heconomi.

"Byddai hynny'n codi i £64 miliwn os edrychwch chi ar bob ffynhonell o ymchwil cystadleuol.

"Bydd Sêr Cymru yn ein galluogi i ddenu mwy o dalent i Gymru, ac yn y pen draw creu mwy o fusnesau o safon uchel a swyddi ymchwil yng Nghymru."

Ynni adnewyddol

Mae'r strategaeth yn nodi tri maes er mwyn hybu ymchwil a busnes :-

  • Gwyddorau bywyd a iechyd.
  • Ynni carbon-isel a'r amgylchedd.
  • Peirianneg datblygiedig a deunyddiau.

Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod am weld mwy o bartneriaethau rhwng diwydiant ac academyddion fel yr un sy'n bodoli rhwng cwmni dur Tata a Phrifysgol Abertawe.

Mae'r cynllun hwnnw gwerth £20 miliwn yn ceisio troi cartrefi a busnesau yn "orsafoeddd pŵer" drwy ddatblygu araen arbennig i ddeunyddiau adeiladu sy'n dal ac yn cadw ynni'r haul.

Dywed ymchwilwyr y gallai gynhesu pob math o adeiladau am gost llawer llai na phaneli solar cyffredin, ac y gallai ddarparu hyd at draean o ynni adnewyddol y DU erbyn 2020.