Remploy: Ystyried opsiynau

  • 8 Mawrth 2012
Gweithwyr Remploy Image copyright Other
Image caption Dywed Llywodraeth y DU nad yw'r ffatrioedd yn hyfyw yn ariannol

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu edrych am ddewisiadau allai achub swyddi yn ffatrioedd Remploy sydd dan fygythiad.

Cyhoeddwyd ddydd Mercher y bydd saith o'r naw ffatri yng Nghymru yn cau gan fygwth swyddi 272 o bobl anabl.

Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ei fod angen gweld mwy o fanylion am asedau Remploy cyn ystyried ymyrryd, ond gallai mentrau cymdeithasol fod yn un dewis.

Dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd y ffatrioedd yn hyfyw yn ariannol.

Mae'r gweithwyr yn poeni na fyddan nhw'n medru cael gwaith arall pe bai'r ffatrioedd yn cau.

'Mwy o fanylion'

Wedi'r cyhoeddiad o San Steffan ddydd Mercher, dywedodd Leighton Andrews y byddai Llywodraeth Cymru yn edrych ar y dewisiadau er mwyn cefnogi'r ffatrioedd yng Nghymru i'r dyfodol, gan gynnwys datblygu mentrau cymdeithasol.

"Mae'n rhy gynnar i ni fel llywodraeth i ddweud mwy ar hyn o bryd tan i ni gael mwy o fanylion gan lywodraeth y DU a gan Remploy.

"Bydd ein sylw fel llywodraeth ar gadw cyfleoedd gwaith i weithwyr Remploy."

Dywedodd gweinidogion San Steffan y dylai ffatrioedd Remploy sydd ddim yn hyfyw gau, gan ail-fuddsoddi'r arian mewn cynlluniau eraill i gynorthwyo pobl anabl i ddod o hyd i waith.

Yng Nghymru y ffatrioedd fydd yn cau yw'r rhai yn Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam.

Bydd y ffatrioedd yn Porth a Chastell-nedd yn parhau ar agor.

Image copyright BBC news grab
Image caption Mae dros 400 o weithwyr yn y naw ffatri Remploy yng Nghymru

Colled

Dywedodd Gweinidog y DU dros bobl anabl, Maria Miller, y bydd y gyllideb o £320 miliwn ar gyfer cyflogi anabl yn parhau, ond y byddai'r arian yn cael ei wario'n fwy effeithiol.

Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae tua 20% o'r gyllideb yna ar hyn o bryd yn cael ei wario ar ffatrïoedd Remploy, ond bod bron pob un o'r ffatrïoedd yn gwneud colled - cyfanswm o £68.3 miliwn o golled y llynedd.

Dywedodd Simon Green, cadeirydd Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr: "Rwy'n bryderus iawn."

Dywedodd fod ffatrïoedd Remploy yn cynnig amgylchedd gefnogol oedd wedi ei lunio i anghenion pobl anabl.

"Mae llawer iawn o swyddfeydd, archfarchnadoedd ac ati na fedrwn i eu defnyddio yn fy nghadair olwyn am nad ydyn nhw'n addas," meddai wrth BBC Cymru.

Ond dywedodd Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru, ei bod yn cefnogi cymdeithas integredig, gan ychwanegu bod ffatrioedd Remploy wedi eu sefydlu mewn oes wahanol.

Cafodd ffatrioedd Remploy eu sefydlu 66 mlynedd yn ôl fel rhan o greu'r wladwriaeth les.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.