Cyngor yn gwrthod fferm wynt

  • 6 Mawrth 2012
Tyrbinau gwynt Image copyright Getty Images
Image caption Nod y cynllun oedd codi 11 o dyrbinau gwynt 377 troedfedd (115m) yn Waun Garno, ger Y Drenewydd

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Powys wedi gwrthod cais cynllunio am fferm wynt yn Waun Garno ger Llanidloes.

Roedd cwmni Acciona UK wedi cyflwyno cais am fferm wynt gydag 11 o dyrbinau ar fynydd uwchben pentref Trefeglwys.

Ond fe bleidleisiodd aelodau'r pwyllgor yn unfrydol y dylai gwrthod y cais am nifer o resymau gan gynnwys pryderon y byddai'r fferm wynt yn cael effaith niweidiol ar y tirlun a golygfeydd yn yr ardal ynghyd ag ar y bywyd gwyllt yno.

Roedd pryderon hefyd mewn perthynas â diogelwch ar ffyrdd yr ardal wrth i'r llwythau anferth fyddai angen i godi'r tyrbinau yn cael eu cludo i'r safle.

'Siomedig'

Daeth tua 50 o brotestwyr i Neuadd y Sir yn Llandrindod ddydd Mawrth cyn i'r cynghorwyr ddechrau trafod y mater.

Yn dilyn y penderfyniad, fe gyhoeddodd cwmni Acciona UK ddatganiad sy'n dweud:

"Yn naturiol rydym yn siomedig gyda'r penderfyniad i beidio caniatáu'r cynllun ar gyfer fferm wynt Waun Garno.

"Fe fyddwn nawr yn adolygu'n ofalus y rhesymau am y penderfyniad cyn ystyried ein dewisiadau wrth symud ymlaen."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.