400 mewn cyfarfod am ddyfodol Ysbyty Tywysog Philip

Cyfarfod cyhoeddus Llanelli Image copyright BBC news grab
Image caption Roedd y cyfarfod yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli

Roedd 400 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau yn trafod eu pryderon am ddyfodol Uned Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Ddydd Sadwrn diwethaf roedd gorymdaith wedi bod drwy'r dre.

Mae 'na bryderon na fydd yr ysbyty yn goroesi os bydd gwasanaethau'n cael eu hisraddio neu eu hadleoli.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ond nad oedd llawer o wasanaethau arbenigol ar gael yn yr ysbyty beth bynnag.

Grŵp Ymgyrchu Sospan drefnodd y cyfarfod yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn Llanelli.

'Gwrando'

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd gynlluniau posib i newid darpariaeth gofal brys yn ysbytai'r canolbarth a'r gorllewin.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Dafydd Evans

Ym mhob opsiwn fe fyddai'r uned ddamweiniau yn Llanelli yn cael ei hisraddio'n "ganolfan gofal brys" gyda'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn ar gael yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mae'r bwrdd wedi dweud eu bod yn "gwrando ar y farn leol" fydd yn rhan o ymgynghori ffurfiol.

"Mae'r mwyafrif y gofal (80%) sy'n cael ei gynnig yn yr adran yn Ysbyty Tywysog Philip yn ymwneud â mân driniaethau ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos," meddai datganiad y bwrdd iechyd.

"Fe fydd yr un gwasanaethau yn parhau yno yn y ganolfan gofal brys.

"Gall trigolion Llanelli fod yn ffyddiog bod dyfodol yr ysbyty fel darparwr gofal iechyd yn ddiogel ac y byddan nhw'n parhau i gael eu gwasanaethu gan dri ysbyty lleol, gan gynnwys Glangwili a Threforys."

Dywedodd Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith: "Nawr maen nhw'n dechrau ar y cynlluniau ac mae angen i bobl ymateb.

"Mae'n bwysig eu bod yn anfon syniadau at y bwrdd iddyn nhw eu hystyried

"Rhaid dweud yn glir, yn blwmp ac yn blaen, eein bod eisiau cadw gwasanaethau yn Llanelli."

Yr wythnos diwethaf roedd mwy na 500 mewn cyfarfod yn Aberystwyth yn trafod pryderon am ddyfodol Ysbyty Bronglais.

Mae ofnau y bydd gwasanaethau yn cael eu symud i Gaerfyrddin.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.