Cam-sillafu Betws-Y-Coed wrth chwilio am wybdoaeth

Arwydd Betws-Y-Coed Image copyright Other
Image caption Mae Betws-Y-Coed yn atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr

Yn ôl ystadegau mae'r rhai sy'n chwilio am wybodaeth ynglŷn â Betws-Y-Coed wedi cam-sillafu'r enw 364 gwaith wrth ddefnyddio peiriant chwilio gwefan dwristiaeth.

Yn ôl rheolwyr y wefan roedd "Betsy Cowed" a "Bwtsy Code" ymhlith y termau a ddefnyddiwyd.

Dywedodd Kevin Jones, sy'n gyfrifol am y wefan, eu bod wedi meddwl efallai byddai tua 30 esiampl o gam-sillafu mewn blwyddyn.

Ond roedd "wedi synnu" pan sylweddolodd bod dros 300 o achosion.

"Hoffwn wybod os oes yna le arall yn y DU sy'n cael ei gam-sillafu gymaint," meddai.

Dywedodd ei fod wedi synnu bod rhai o'r bobl a ddefnyddiodd yr enw anghywir wedi llwyddo i ddod o hyd i'r wefan o gwbl.

"Roedd rhai o'r enwau'n gwbl aneglur.

"Dwi'n meddwl mai dyma'r enw lle sy'n cael ei gam-sillafu mwy na unrhyw le arall yn y DU - dwi'n herio pobl i roi gwybod i mi os oes rhywle arall."

Cywirdeb

Roedd Mr Jones ei hun yn ynganu Betws-Y-Coed yn anghywir pan gyrhaeddodd yn y pentref gyda'r bwriad o sefydlu busnes gwely a brecwast wedi cyfnod yn y Llu Awyr.

"Roeddwn i'n ei alw'n 'Betsy-Cowed' ac roedd rhywun arall wedi dweud wrthaf 'Pam na wnei di agor gwely a brecwast yn Betsy-Cowed, mae'n ddymunol iawn yno'.

"Ond pan gyrhaeddais dywedodd rhywun wrtha' i 'Os wyt ti am redeg busnes yma well i ti ynganu enw'r lle yn iawn'."

Image copyright BBC News online
Image caption Mae "Betsy Cowed" a "Bwtsy Code" yn esiamplau o gam-sillafu a ddarganfuwyd

Ers hynny mae Mr Jones wedi sylwi ar nifer o bobl yn ynganu'r enw'n anghywir yn ystod galwadau ffôn a nifer o esiamplau o gam-sillafu mewn llythyron.

Penderfynodd weld faint o esiamplau o gam-sillafu byddai'n ymddangos mewn peiriant chwilio trwy gydol 2011.

Dywedodd Eileen Burtonwood, cadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Betws-Y-Coed a'r Cylch, ei bod hithau hefyd wedi syfrdanu.

"Roeddwn yn meddwl byddai rhyw 50 i 60, nid 364."

Ond ychwanegodd na fydd hyn yn rhwystr i nifer yr ymwelwyr.

"Mae pobl leol wedi arfer â phobl yn cael trafferth efo'r enw ac yn delio efo fo mewn hwyliau da.

"Dwi'n sicr bod yna lefydd eraill yng Nghymru, a digon hefyd yn Lloegr, fel Keighley, Haworth a Loughborough - mae'n hawdd eu sillafu nhw'n anghywir," ychwanegodd.