Mudiad ymgyrchu newydd?

Pum deg mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith Tynged yr Iaith mae'r posibilrwydd o sefydlu mudiad ymgyrchu newydd yn cael ei drafod.

Yn ôl rhai, dyw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gafodd ei sefydlu fisoedd wedi'r ddarlith, ddim wedi addasu i'r holl newidiadau gwleidyddol diweddar.

Mae'r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd yn honni fod y mudiad wedi colli llawer o'i dylanwad o gofio bod cymaint o rym dros ddyfodol yr iaith yn nwylo'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

"Does 'na ddim presenoldeb lobïo cyson o blaid y Gymraeg yng Nghaerdydd ... prin ydy ymdrechion y Gymdeithas o ran lobïo ac anghyson, yn sicr," meddai.

"Wel, maen nhw'n sownd mewn rhyw ddelfryd gwleidyddol o'r 1960au sydd ddim yn berthnasol iawn i'r Gymru gyfoes.

'Yn geidwadol'

"Maen nhw'n fudiad ceidwadol iawn...."

Ar ôl rhybuddio bod yr iaith yn marw fel iaith gymunedol, mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, corff fydd yn cael ei ddileu o fewn wythnosau, wedi galw am sefydlu grŵp newydd.

Dywedodd Meirion Prys Jones: "Mae Cymdeithas yr Iaith yn gweithio fel grŵp pwyso.

"Dwi'n tybio bod angen rhyw fath o grŵp yn y canol falle sy'n gallu delio â'r maes yn fwy proffesiynol fel cynllunwyr ieithyddol - a dweud: 'Dyma sydd angen ei wneud" a rhoi pwysau ar wleidyddion i wneud hynny."

Pan ofynnwyd iddo pwy fyddai'n gwneud hynny, atebodd: "Wel, mae hynny'n gwestiwn diddorol.

"Fe fyddwn i'n bwrw'r cwestiwn yna allan i'r gymdeithas sifig a dweud: 'Wrth i'r bwrdd ddod i ben mae eisiau i chi feddwl ynglŷn â phwy sy'n mynd i gyflawni'r rôl."

'Yn gefnogol'

Dywedodd Rhys Llwyd o Gymdeithas yr Iaith: "Mae Richard Wyn Jones wedi adnabod gwendid yn y mudiad cenedlaethol, dwi'n meddwl, nid gwendid yn y mudiad iaith.

Yr Athro Richard Wyn Jones
Richard Wyn Jones: '... dim presenoldeb lobïo cyson o blaid y Gymraeg yng Nghaerdydd ...'

"Mi fyddwn i'n galw ar Richard Wyn Jones a phobl debyg i sefydlu grŵp newydd allai gynnal a chyflogi lobïwr llawn amser ac mi fyddai Cymdeithas yr Iaith yn sicr yn gefnogol i fudiad o'r fath.

"Mudiad protest yw Cymdeithas yr Iaith a dwi ddim yn meddwl y dylen ni ymddiheuro am hynny, hynny yw bod yn llais ar y tu allan yn herio.

"Ond mae'n bwysig cofio bod hyn yn cael ei wneud yn ein gwaith lobïo ..."

Dywedodd y Dr Simon Brooks o Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd: "Dwi'n meddwl y bydd rhaid i'r mudiad iaith foderneiddio a does gen i ddim dwywaith y bydd y mudiad iaith yn newid ac yn moderneiddio eleni.

"Y cwestiwn ydy sut mae hynny'n digwydd?

'Trafod'

"Ydy o'n digwydd trwy fod Cymdeithas yr Iaith yn penderfynu mynd i'r afael â'r math yma o waith ei hunan?

"Neu ydy o'n digwydd oherwydd bod grŵp o bobl eraill yn penderfynu y bysen nhw'n licio mynd i'r afael â'r cwestiwn eu hunain?

"Mae hynny'n fater i'w drafod, dwi'n credu."

Yn y cyfamser, mae rhai ymgyrchwyr iaith blaenllaw yn cytuno â'r syniad ac un neu ddau wedi awgrymu y gallai fod yna ddatblygiadau o fewn wythnosau.

"Trwy ddulliau chwyldro'," yr oedd achub y Gymraeg, meddai Saunders Lewis yn ei ddarlith.

Ond hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae'n ymddangos fod rhai o'r farn nad trwy ddulliau chwyldro yn unig y dylid ymgyrchu.