'Sawl gogwydd ar yr iaith'

Guto Bebb, Rhys Iorwerth, Gwyneth Lewis, Simon Brooks a Meri Huws
Y pump sy'n mynegi barn yw Guto Bebb, Rhys Iorwerth, Gwyneth Lewis, Simon Brooks a Meri Huws

I nodi 50 mlynedd ers darlith Tynged yr Iaith, mae Radio Cymru wedi comisiynu pum darlith fer.

Y gobaith yw y byddan nhw'n cynnig sawl gogwydd gwahanol ar y Gymraeg yn 2012.

Aelod Seneddol Aberconwy, y Ceidwadwr Guto Bebb, yw'r cyntaf i leisio ei farn ddydd Llun.

"Mae enw Saunders Lewis yn golygu fy mod bron yn ddiarwybod yn dechrau meddwl am Geraint Jarman," meddai.

"Rhyfedd o beth o ystyried cyfraniad aruthrol Saunders i'r Gymry sydd ohoni.

"Ac eto, gydag un gân fer o 1987, Nos Da Saunders, mae 'na gysylltiad parhaol wedi ei greu yn fy meddwl rhwng un o feddylwyr mawr gwleidyddol y Gymry Gymraeg a'r artist a wnaeth, yn fwy na neb, sicrhau bod y gair 'cool' yn gallu sefyll law wrth law a diddordeb mewn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg wrth i mi dyfu fyny ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au."

Mae modd gwrando ar ei ddarlith yn llawn yma.

'Perthyn'

Dydd Mawrth y Prifardd Rhys Iorwerth sy'n cael dweud ei ddweud.

"Mae'r Cymry wastad, hyd y gwela' i, wedi rhoi pwys mawr ar yr ymdeimlad o berthyn i le a chynefin, ar wreiddiau a chartra'," meddai.

"Mae'n rhan go anatod o'r ffordd y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ein diffinio ein hunnain.

"Ac mae sefyllfa'r iaith heddiw yn aml yn ein harwain i'w hastudio drwy edrych ar ei chyflwr o fro i fro, o gymuned i gymuned, gan mai yn y mannau hynny y mae'n rhaid iddi fynny er mwyn byw."

Mae modd gwrando ar ddarlith Rhys Iorwerth yma.

Dydd Mercher Gwyneth Lewis fu'n cael cyfle.

"Rwy'n cofio un sesiwn tanllyd, gydag awduron ieithoedd lleiafrifol yn cyhuddo'r rhai uniaith Saesneg o ddilorni eu hetifeddiaeth a'r rheiny'n ymosod yn eu tro trwy gollfarnu niferoedd bychan yr ieithoedd Celtaidd.

"Gofynnwyd i un bardd sy'n ysgrifennu yn y Wyddeleg i bwy oedd e'n cyfansoddi. "I'r meirw!" medde yntau yn hollol ddifrifol.

"Aeth y lle'n wallgo gyda rhai'n udo chwerthin ac eraill yn wyllt gandryll. Fi oedd yr unig un o'r cwmni oedd yn cyfansoddi barddoniaeth mewn iaith Geltaidd ac yn Saesneg.

"Roedd hi'n anodd cael neb i wrando ar y pwynt oedd gen i, sef fy mod i'n teimlo'r gwrthdaro diwylliannol swnllyd oedd ar y llwyfan y tu fewn i'm corff, fel salwch awtoimiwn.

"Yr unig ffordd y medra i ddioddef y cymhlethdod yw arfer goddefgarwch creadigol gofalus."

Mae modd gwrando ar ddarlith Gwyneth Lewis yn llawn yma.

'Chwyldro'

Dydd Iau tro Simon Brooks oedd hi.

"Llais main, miniog ar y radio yn cymell chwyldro hanner canrif yn ôl. Dyna'r atgof sydd gennym erbyn hyn o ddarlith enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn cyhoeddi y gellid achub y Gymraeg o dderbyn mai 'trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.

"Ond nid dyma'r tro cyntaf i Saunders Lewis ddefnyddio'r gair 'chwyldro' wrth geisio ennyn gwrthsafiad yn enw'r Gymraeg.

"Fe wnaethai hynny o'r blaen yn y 1940au a'r 50au, a bu'r ymateb yn llugoer. Pan draddodwyd Tynged yr Iaith, fe allai'n rhwydd wedi tybio y byddai'n druth aneffeithiol arall mewn olyniaeth hir o alwadau aneffeithiol cyffelyb."

Gellir clywed darlith Simon Brooks yma.

Dydd Gwener Meri Huws sy'n cael y cyfle olaf i roi darlith.

"Hwn yw'r tro cyntaf i fi siarad yn gyhoeddus fel darpar Gomisiynydd y Gymraeg.

"Wrth baratoi ar gyfer cymryd cyfrifoldeb a dyletswyddau'r com, mae'r meddwl yn ddigon naturiol yn trroi I edrych ar y daith sydd wedi ein harwain I fan hyn.

"Mae hi'n daith bersonol, yn daith gwleidyddol ac yn daith ieithyddol.

"Fe fydda i'n edrych...yn arwynebol....ar yr iaith a'r modd y mae hi wedi llwyddo I oroesi ac yn arbennig ar hanes statws yr iaith ar hyd yr oesoedd."

I wrando yn llawn ar ddarlith Meri Huws, cliciwch yma.

Fe fydd y darlithoedd ar BBC Radio Cymru am 12.03pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd modd clywed y darlithoedd i gyd yma.