Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Oes 'na ddyfodol i Gymdeithas yr Iaith fel y mae?

13 Chwefror 2012 Diweddarwyd 09:58 GMT

Hanner canrif ers araith Tynged yr Iaith a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae aelodau o'i mewn wedi cydnabod bod angen creu mudiad iaith newydd.

Roedden nhw'n ymateb i sylwadau gafodd eu gwneud gan un academydd blaenllaw ynglŷn â diffyg dannedd lobio'r gymdeithas.

Yn ôl Dr Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd mae'r Gymdeithas yn "sdyc yn yr un hen rigol" - sydd medde fe - yn "drasiedi".

Pa ddyfodol sydd i'r Gymdeithas?

Adroddiad Catrin Heledd.