Angladd sefydlydd maes awyr

Bob Jones
Mr Jones oedd yn gyfrifol am sefydlu'r maes awyr

Mae angladd sefydlydd a rheolwr maes awyr y canolbarth wedi ei chynnal yn Y Trallwng.

Bu farw Bob Jones, 60 oed, a'r peilot profiadol Steve Carr, 55 oed, o Ruthun wedi damwain ger Y Trallwng ar Ionawr 18.

Daeth dros 600 i'r gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd Mr Jones brynhawn Sadwrn yn Eglwys Santes Fair.

Yn gynharach bu gwasanaeth preifat i'r teulu.

Cyn hynny fe wnaeth awyrennau hedfan dros y maes awyr fel arwydd o barch.

Mr Jones wnaeth sefydlu'r maes awyr ar dir ger ei fferm a'i ddatblygu o lain glanio gwair bach yn 1990 i fod yn faes awyr pwysig i fusnesau'r ardal.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn y canolbarth yn defnyddio'r maes awyr.

Cafodd angladd Mr Carr, cyn-beilot gyda'r Llu Awyr a'r cynhyrchydd cerddorol, ei chynnal ddydd Gwener yn Amlosgfa Pentrebychan yn Wrecsam.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain awyren saith sedd wnaeth ddisgyn ger Cefn Digoll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ger Tre'r Llai.