'Tynged yr Iaith' yn 50

Saunders Lewis, yn 1963
Fe draddododd Saunders Lewis ei ddarlith enwog yn 1962.

Mae hi'n union 50 mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei araith enwog, Tynged yr Iaith.

Roedd yr araith yn galw am ddulliau chwyldroadol i achub a diogelu'r Gymraeg.

Yn ddiweddarach, ym mis Awst 1962, ffurfiwyd y mudiad protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Roedd y ddarlith yn un o rai blynyddol y BBC.

Fel arfer roedd y darlithoedd radio yn y cyfnod dan sylw yn ymwneud ag archeoleg, barddoniaeth, a diwinyddiaeth.

Ond roedd un Saunders Lewis yn wahanol, yn heriol.

Y nod, meddai, fyddai sicrhau bod gwaith y llywodraeth ganolog a'r cynghorau'n amhosib heb yr iaith.

'Chwyldro'

Ac roedd hyn yn golygu ymgyrch torcyfraith.

"Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith yng Nghymru," meddai.

"Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo."

Roedd yn darlithio heb weld canlyniadau Cyfrifiad 1961.

Ond roedd ei broffwydoliaeth ar y trywydd iawn.

Bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 1951 a 1961, o 715,000 (28.9%) i 656,000 (26%).

I nodi'r achlysur cafodd pumed argraffiad Tynged yr Iaith ei gyhoeddi a'i lansio yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth nos Lun.

Mae'n cynnwys rhagymadrodd gan yr awdur a'r darlithydd, Ned Thomas.

Canran o bobl Cymru sy'n siarad yr iaith
1901 1911 1921 1931 1951 1961 1971 1981 1991 2001
49.9% 43.5% 37.1% 36.8% 28.9% 26% 20.8% 18.9% 18.5% 20.8%

Yn ei ragymadrodd dywed Mr Thomas: "Rydym yn ailddarllen Tynged yr Iaith mewn byd gwahanol iawn i fyd 1962.

"O ran y Gymraeg, pwy all wadu mai 'dulliau chwyldro' aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd yn gyfrifol am rai o'r llwyddiannau pwysicaf yn y cyfnod cyn datganoli, o ddyddiau peintio arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg hyd at sefydlu'r sianel deledu Gymraeg?"

logo Cymdeithas yr Iaith
Cafodd Cymdeithas yr Iaith Gymraef ei sefydlu ym mis Awst 1962

Ond mae hefyd yn dweud fod manteision pwysig wedi eu sicrhau trwy ddulliau eraill, gan gynnwys ysgolion Cymraeg.

"Hawliodd Saunders Lewis yn ei ddarlith na fyddai llywodraeth Llundain byth yn gorfodi'r Gymraeg fel pwnc ar ysgolion Cymru, ond dyna a ddigwyddodd yn amser Wyn Roberts yn y Swyddfa Gymreig.

Roedd Yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn dyst i brotestiadau Cymdeithas yr Iaith ar sawl achlysur rhwng 1979 a 1994.

Dywedodd fod angen mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith.

Ond roedd yn anhapus gyda'r ffordd yr oedden nhw "ar adegau yn camweithredu a gwneud drwg i'r iaith".

Dywedodd fod dulliau torcyfraith yn gwneud y di-Gymraeg yn fwy gelyniaethus i'r iaith.

"Fe wnaed cymaint o ddifrod i arddangosfa iechyd y Swyddfa Gymreig yn Eisteddfod Y Rhyl, miloedd o bunnoedd.

"Sut ar y ddaear mae hynny yn helpu'r iaith?"

Arddangosfa

Ychwanegodd Yr Arglwydd Roberts mai'r hyn fyddai'n poeni Saunders Lewis heddiw fyddai tlodi a safon yr iaith.

"Byddai'n troi yn ei fedd pe bai'n clywed ambell i beth ar y teledu."

Mae arddangosfa arbennig ym Mhrifysgol Bangor i nodi hanner canmlwyddiant y ddarlith.

Dywedodd Einion Thomas, archifydd y Brifysgol: "Rydym wedi paratoi arddangosfa sy'n olrhain effaith y ddarlith ar hanes Cymru.

"Ceir ymdriniaeth o'r effaith a gafodd ar fyfyrwyr Bangor gyda mwy a mwy o alw am ddefnydd o'r Gymraeg a'r trafferthion dybryd a fu yn y sefydliad rhwng 1976 ac 1984. "