Cloc yn nodi ymweliad y Brifwyl

  • 3 Chwefror 2012
Y Seremoni Gyhoeddi gyda Gorsedd y Beirdd
Cafodd Seremoni Gyhoeddi'r Eisteddfod ei gynnal ym mis Gorffennaf y llynedd

I nodi chwe mis tan ddechrau'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg ar Awst 4 mae cloc cyfri nôl wedi ei osod ar wefan y cyngor sir.

Mae'r Eisteddfod yn ymweld â'r ardal am y tro cyntaf er 1968.

Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg mae'r cloc yno i atgoffa pobl bod ganddyn nhw amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian ar gyfer y digwyddiad yn Llandŵ.

Mae disgwyl i'r ŵyl groesawu hyd at 165,000 o ymwelwyr.

Bydd y cloc wedi ei rannu'n fisoedd, diwrnodau, oriau a munudau.

'Paratoadau'n prysuro'

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Gordon Kemp: "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ŵyl ddiwylliannol bwysig yn rhyngwladol, ac mae'n dathlu nid yn unig elfennau cryfaf Cymru, ond fe fydd hefyd yn denu nifer fawr o ymwelwyr i Fro Morgannwg.

"Bydd y cloc cyfri'n ôl yn adlewyrchu'r cynnydd yn y cyffro pan fydd cyfnod yr Eisteddfod yn dod yn nes, a'r paratoadau'n prysuro.

"Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu proffil y Fro, yn enwedig i'r trefi sydd agosaf at Landŵ, sef Y Bont-faen a Llanilltud Fawr."

Mae tudalennau'r Eisteddfod ar wefan Cyngor Bro Morgannwg yn cynnwys gwybodaeth am y Brifwyl a'i chystadlaethau yn ogystal â'r newyddion diweddaraf.