Llofruddio: Mwy o amser i holi

  • 26 Ionawr 2012
Irene Lawless Image copyright Other
Image caption Roedd Irene Lawless yn byw ar ei phen ei hun yn Llanllwni

Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i holi dyn mewn cysylltiad â llofruddio menyw 67 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Daethpwyd o hyd i Irene Lawless yn farw yn ei chartref ar Stad Bryndulais yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, brynhawn Llun.

Maen nhw'n holi dyn 26 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd dau ddyn 20 oed a 30 oed, oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y tri eu harestio yng Nghaint ddydd Mawrth lle cafwyd hyd i gar Ms Lawless.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.