700 o ddelweddau difrifol iawn

  • 25 Ionawr 2012
Llys y Goron Abertawe
Roedd yr arbenigwr yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe

Mae arbenigwr wedi dweud wrth lys fod cyfrifiaduron a chryno-ddisgiau yng nghartref rheolwr cyfrifiaduron yn Llanelli yn cynnwys miloedd o ddelweddau anweddus ddifrifol iawn o blant.

Roedd Simon Davies o Uned Troseddau Technolegol Heddlu Dyfed Powys yn Llys y Goron Abertawe yn yr achos yn erbyn Jeffrey Gravell.

Yn 2010 daeth o hyd i'r delweddau wrth archwilio cyfrifiaduron yng nghartref Mr Gravell oedd yn gweithio yn Ysgol Coedcae, Llanelli.

Mae Mr Gravell, 53 oed o Borth Tywyn, wedi gwadu cyhuddiadau'n ymwneud â'r delweddau a hefyd gyhuddiadau o ddwyn offer cyfrifiadurol.

Ac mae ei bartner, Helen Griffiths, 43 oed, wedi gwadu cyhuddiadau o ddwyn ac o drafod eiddo oedd wedi ei ddwyn.

Dywedodd Mr Davies fod sustem graddau'n cael ei defnyddio wrth asesu pa mor ddifrifol oedd delweddau anweddus.

700

Daeth yr heddlu o hyd i 391,000 o luniau a fideos ar y cyfrifiaduron.

Roedd 371,000 yn y categori lleiaf difrifol, dros 6,000 yng nghategorïau dau, tri a phedwar, a thros 715 yn y categori mwyaf difrifol.

Roedd ffeiliau ar rai o'r cyfrifiaduron o dan y teitlau "kiddy porn" a "Lolita sex".

Mae amddiffyniad Mr Gravell wedi honni nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth am y delweddau a'u bod wedi dod o rwydwaith yr ysgol.

Mae'r achos yn parhau.