Llofruddiaeth: Rhyddhau llanc 17

  • 24 Rhagfyr 2011
Llywelyn Thomas
Bu Llywelyn Thomas yn ffermio yn ne Cymru cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl

Mae llanc 17 oed wedi cael ei ryddhau wedi iddo gael ei holi am lofruddiaeth dyn 76 yn ei gartref yn Sir Caergrawnt.

Cafwyd hyd i gorff Llywelyn Thomas, sy'n wreiddiol o Sain Ffagan yng Nghaerdydd, wedi i'r heddlu gael eu galw i'w gartref ar Ely Road, Chittering, ddydd Sul diwethaf.

Canlyniad archwiliad post mortem oedd iddo garw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.

Dywedodd Heddlu Sir Caergrawnt fod llanc 17 oed wedi cael ei arestio a'i holi, ond ei fod bellach wedi cael ei ryddhau heb gyhhuddiad.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jeff Hill mae un trywydd i'r ymchwiliad oedd y posibilrwydd mae lladrad aeth o'i le ddigwyddodd ar Ragfyr 17.

Cafodd Mr Thomas yn eni ar gyrion Caerdydd a bu'n ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.

Car swnllyd

Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab ond dim wyrion.

Cafodd eu gar Rover gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV ei ddwyn o'i gartref a cafwyd hyd iddo yn ddiweddarach mewn pentref i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt.

Mae archwiliadau fforensig yn parhau ar y car ac yn y tŷ.

Ychwanegodd Mr Hill: "Byddwn yn annog pobl oedd yn ardal Chittering a Milton ddydd Sadwrn i feddwl yn ôl.

"A welsoch chi rhywun yn ymddwyn yn amheus, neu'r car Rover lliw arian yma'n cael ei yrru ar hyd yr A10.

"Roedd nam mecanyddol arno felly fe fyddai'r car wedi bod yn swnllyd iawn, ac ond yn medru teithio'n ara deg."