Pryder y bydd creu un asiantaeth yn golygu colli swyddi

Coed ym Mhowys
Image caption Mae cwmnïau coed yn poeni na fydd blaenoriaeth i'w hanghenion gan yr asiantaeth newydd

Mae cwmnïau masnachol ym maes coedwigaeth yn rhybuddio y bydd swyddi a buddsoddiad yn cael eu colli os y bydd Llywodraeth Cymru yn uno tair asiantaeth wahanol.

Mae gweision sifil yn paratoi cynllun busnes ar gyfer un corff i gymryd lle Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth.

Mae cynrychiolwyr o'r diwydiant coed yn honni y byddan nhw'n dioddef oherwydd gwrthdaro rhwng swyddogaethau o fewn y corff newydd.

Ond mae'r cynllun drafft yn dweud y bydd yn sicrhau gwerth am arian a gwell gwasanaeth.

Rhannu adnoddau

Am naw mis bu gweision sifil yn paratoi cynllun busnes yn manylu ar sut y byddai Llywodraeth Cymru yn uno'r tri chorff.

Er bod rhai o'r dadleuon dros yr uno i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru, nid yw'r cynllun busnes wedi cael ei ddarllen gan lawer.

Mewn copi ddaeth i law BBC Cymru, mae'r cynllun yn rhestru buddion cael un corff amgylcheddol :-

  • Gwell gwasanaeth ar faterion amgylcheddol
  • Un pwynt cyswllt
  • Rhannu adnoddau a chyfannu arbenigedd
  • Gwell gwerth am arian.

Gwrthododd staff yn y tri chorff i gael eu cyfweld gan y BBC, ond mae'n wybyddus fod llai o wrthwynebiad i'r uno yn y Cyngor Cefn Gwlad ac Asiantaeth yr Amgylchedd nag yn y Comisiwn Coedwigaeth.

Ond mae pryder yn y maes coedwigaeth masnachol y gallai diwydiant sy'n cyflogi 10,000 o bobl yng Nghymru, gan gyfrannu dros £840 miliwn i economi Cymru, ddioddef.

Blaenoriaethau

Dywedodd David Burd, rheolwr melin goed BSW ger Pontnewydd-ar-Wy ym Mhowys, na allai ei gwmni ymroi i fuddsoddiad na chreu swyddi yn y dyfodol os na fyddai anghenion y diwydiant yn cael eu blaenoriaethu.

"Rwy'n poeni'n wirioneddol os fydd uno yna fe fydd aflonyddu sylweddol i'r cyflenwad tymor hir o adnoddau crai," meddai.

"Mae'r cydbwysedd rhwng coedwigaeth fel busnes a'r defnydd o goedwigoedd fel adnoddau hamdden yn newid yn ddramatig."

Mae mudiad Coed Cadw wedi rhoi croeso gofalus i'r cynllun uno gan ddweud "y gallai fod o fudd cyhoeddus oherwydd mwy o reoli tir cyfannol" ac y byddai'r rhai sy'n gweithio yn y sector yn "cael cyfle i ehangu eu gorwelion ac ymledu eu dylanwad".

Ond ychwanegodd eu bod yn pryderu na fyddai grymoedd y cyrff presennol yn cael eu cadw gan asiantaeth newydd.

'Mwy effeithiol'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai cael un corff i ddelio gyda holl faterion amgylcheddol Cymru yn fwy effeithiol ac yn creu arbedion sylweddol.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths: "Mae gennym dri sefydliad yn gwneud gwaith pwysig, ond rwy'n meddwl os gallwn ni uno'r tri fe fyddai gennym fwy o effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.

"Y cynllun busnes sy'n bwysig ar hyn o bryd yn y broses o benderfynnu, oherwydd mae'n rhaid iddo wneud synnwyr."

Fe allai dadleuon mewnol o fewn corff newydd beri trafferthion i Lywodraeth Cymru.

Er enghraifft yn achos y pwerdy nwy ger Doc Penfro sydd bron wedi ei gwblhau, fe ddywedodd y Cygnor Cefn Gwlad wrth y llywodraeth y gallen nhw wynebu her gyfreithiol gan Gomisiwn Ewrop am ganiatau tyrbinau ym mhwerdy RWE Npower i gael eu hoeri gan ddŵr o aber Afon Cleddau.

Ond fe wnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ganiatau trwydded i RWE er gwaethaf pryderon am yr effaith ar safle arbennig o gadwraeth.