Gwraig yn gwrthod datblygiad all ddymchwel ei chartref

Enid Jones tu allan i'w chartref
Mae Enid Jones yn pryderu y gallai golli ei chartref er mwyn i ddatblygwyr allu codi archfarchnad a maes parcio newydd

Mae gwraig o Aberystwyth yn gwrthod gwerthu ei chartref i gwmni sydd am adeiladu archfarchnad a maes parcio newydd yn y dref.

Mewn sawl rhan o Gymru mae 'na bobl yn gwrthwynebu bwriad cwmnïau archfarchnad i sefydlu mewn tref neu ddinas.

Yn Aberystwyth, mae cwmni Tesco yn awyddus i ddymchwel stryd o dai ar gyfer datblygu siop.

Ond, mae Enid Jones, sy'n byw ar y stryd yn gwrthod gwerthu ei chartref.

Mae 'na bosibilrwydd y gallai hi gael ei gorfodi i wneud hynny fe y canfu rhaglen Week In Week Out BBC Cymru.

Fe wnaeth Mrs Jones brynu ei chartref yn Ffordd Glyndŵr saith mlynedd yn ôl.

Roedd hi'n credu y byddai yno am weddill ei hoes.

'Brwydro'

Pryder Mrs Jones yw y bydd y datblygwyr yn gofyn i'r cyngor ei gorfodi i werthu os na fydd hi'n arwyddo cytundeb i werthu i'r cwmni.

"Fe fyddai'n brwydro tan yr anadl olaf," meddai.

"Dyma fy nghartref, dwi wedi talu amdano ac fe fyddai'n brwydro bob cam."

Mae Week In Week Out wedi dilyn Mrs Jones yn ei hymgyrch i gael mwy o fanylion am y cynlluniau sy'n cynnwys dymchwel 12 o dai mewn stryd teras, codi siop Tesco newydd a maes parcio.

Mae hi wedi canfod bod Cyngor Ceredigion a'r datblygwyr Chelverton yn dweud pethau gwahanol am ddyfodol maes parcio Dan Dre ac a fydd angen gorchymyn prynu gorfodol ac a fydd Ffordd Glyndŵr yn cael ei ddymchwel?

Fe ddewisodd Mrs Jones brynu tŷ ar Ffordd Glyndŵr am ei leoliad, lle fflat, ger y siopau.

"Os oes angen i mi ddefnyddio'r gadair olwyn yna dwi'n agos at bobman," meddai Mrs Jones sydd wedi diodde' o glefyd siwgr ers ei bod yn 9 oed.

Dywedodd y wraig 56 oed, ei bod yn ymwybodol bod 'na fwriad i ddatblygu Maes Parcio Dan Dre pan wnaeth hi brynu'r tŷ ond doedd na ddim bwriad ar y pryd i gynnwys Ffordd Glyndŵr.

Wedi proses o 18 mis yn ceisio canfod datblygwyr fe wnaeth y cyngor gyhoeddi yn ddiweddar bod cwmni Chelverton Deeley Freed wedi eu penodi i ddatblygu Maes Parcio Dan Dre.

'Dim gwybodaeth'

Mae'r cynlluniau yn cynnwys gwella maes parcio'r dref, codi archfarchnad newydd Tesco a dymchwel tai Ffordd Glyndŵr yn ôl y cynlluniau a ryddhawyd gan y cyngor.

Cartrefi ar Ffordd Glyndŵr, Aberystwyth
Doedd dim sôn am ddatblygiadau ar gyfer Ffordd Glyndŵr pan brynodd Mrs Jones ei chartref

Ers tua dwy flynedd mae perchnogion tai'r stryd wedi bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd gan fod y datblygwr a gwerthwr tai lleol wedi bod yn eu holi am eu bwriadau i werthu a'i pheidio.

Mae naw o'r 12 cartref wedi penderfynu gwerthu.

Wnaeth Mrs Jones ddim mynychu'r un cyfarfod ar ôl yr un cyntaf am nad oedd eisiau bod yn rhan o'r trafodaethau ac nad oedd yn gallu credu y byddai'r stryd yn cael ei dymchwel.

Dywedodd nad oedd yn cael unrhyw gadarnhad gan y cyngor.

"Nid tŷ yw hwn, dyma fy nghartref," meddai.

"Dwi ddim eisiau symud.

"Dyw'r cyngor ddim wedi rhoi dim gwybodaeth i mi am yr hyn fydd yn digwydd."

Cafodd Mrs Evans gyfle i drafod ei phryderon gyda Keith Evans, arweinydd Cyngor sir Ceredigion.

Dywedodd Mr Evans wrth y rhaglen na ddylid tybio y byddai gorchymyn prynu gorfodol yn cael ei gyflwyno ac mai mater i'r datblygwyr ddod i gytundeb gyda'r perchnogion er mwyn iddyn nhw brynu'r tir angenrheidiol ar gyfer y datblygiad.

'Methu addasu'

"Os na allen nhw gael y tir penodol, efallai y bydd rhaid iddyn nhw ail ystyried maint y cynllun," meddai.

Ond mae Simon Morgan, Cyfarwyddwr Chelverton, yn dweud eu bod yn cadw at y cynlluniau ac y byddan nhw o fudd i'r holl dref.

Mae'n gwrthod derbyn y byddai modd addasu'r cynlluniau ar gyfer osgoi dymchwel Ffordd Glyndŵr.

"Rydym wedi cael ein penodi ar gyfer prosiect penodol," meddai.

"Mae hynny yn cynnwys..... dymchwel 12 tŷ Ffordd Glyndŵr."

Fe wnaeth cwmni Tesco wrthod cais am gyfweliad ond dywedodd llefarydd mai dyddiau cynnar y cynllun yw hyn ac y byddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn rhan o'r broses ar ran y datblygwyr a'r cyngor.

Fe fydd mwy am stori Mrs Jones ar Week In Week Out ar BBC Un Cymru nos Fawrth Tachwedd 15 am 10.35pm.