Athrofa yn cefnu ar Brifysgol Cymru

  • 12 Hydref 2011
Prifysgol Cymru Image copyright BBC news grab
Image caption Prifysgol Cymru: Y sefydliad dan bwysau

Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yn newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn rhoi'r gorau i roi graddau yn enw Prifysgol Cymru.

Golyga'r newid na fydd y sefydliad yn arddel enw Prifysgol Cymru.

UWIC yw'r ddiweddara i dorri ei chysylltiad â Phrifysgol Cymru.

Mae'n dilyn cynlluniau tebyg gan Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, a phrifysgol Casnewydd.

Daeth y newyddion am y newidiadau mewn e-bost at staff yr athrofa.

Daw'r newyddion yn sgil ymchwiliad gan BBC Cymru i honiadau o dwyll yn ymwneud â fisas myfyrwyr mewn colegau oedd yn cynnig cymwysterau wedi eu dilysu gan Brifysgol Cymru

Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi galw am ymddiswyddiad cadeirydd cyngor y brifysgol, D Hugh Thomas.

Ddydd Mercher dywedodd Mr Andrews wrth BBC Cymru fod angen i'r brifysgol nawr gael 'claddedigaeth barchus'.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Uwic na fyddai'n rhan o gynllun i greu prifysgol enfawr yn y de ddwyrain drwy uno gyda Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.