Dyn mewn cyflwr difrifol iawn

  • 27 Medi 2011
Canolfan reoli
Fe ymosododd criw o ddynion ifanc ar Ben Hunter yn oriau mân y bore

Mae dyn mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty wedi ymosodiad.

Fe ymosododd criw o ddynion ifanc ar Ben Hunter yn Heol Sant Siôr yn Ninbych y Pysgod am 1.15am fore Sadwrn, Medi 10.

Roedd yng nghwmni ei frawd, Tim.

Mae yn Uned Gofal Dwys Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd a'i deulu wrth erchwyn ei wely.

Dylai unrhyw dystion neu unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.