BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2007

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Straeon

Rhiannon

Coroni Rhiannon

Damwain beic yn achub y dydd

Yn gywir fel y darogan, Rhiannon a enillodd goron yr Eisteddfod heddiw!

A hynny'n ychwanegu at gysylltiad yr enw â'r gystadleuaeth hon.

Cliciwch

Ond yr oedd diolch y Rhiannon bresennol - Rhiannon Marks - iddi lwyddo i gystadlu o gwbl i ddamwain beic a gafodd y noson cyn dyddiad cau y gystadleuaeth.

Llongyfarchiadau - Rhiannon gyda'i hen brifathro, Hywel Pugh, Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri Prin o ysgrif
A hithau yn brin o ysgrif ar gyfer cystadlu dywedodd i syniad ddod iddi yn sgil damwain beic yn Rhydychen lle mae'n fyfyrwraig.

"Dod yn ôl oedd teitl y gystadleuaeth a dod yn ôl o swper yn y coleg oeddwn i - ac mae yna draddodiade digon rhyfedd i'w cael yma - rydych chi'n cael gweddi yn Lladin a phawb yn eu gowns ond wrth ddod nôl roeddwn i yn y stryd yma yn llawn pobl o bob math o wledydd dros y byd a meddwl, wel falle nad yw'r traddodiadau yn y coleg ddim mor ryfedd wedi'r cyfan a phwy sydd i ddweud beth sy'n rhyfedd?"

Ac yn hel y meddyliau hyn oedd hi pan syrthiodd oddi ar ei beic a hynny ddiwrnod cyn y dyddiad cau.

"Ac roedd angen ysgrif arnaf i," meddai. "Fe ebostiais i hi at mam ac fe yrrodd hi'r gwaith i swyddfa'r Urdd yn Aberystwyth imi," meddai.

Yn y gystadleuaeth gofynnwyd am ysgrif, stori fer a chyfres o lythyrau.

Ffilmio Rhiannon "Stori fer oedd fy un i, am griw o fenywod sydd yn cyfarfod yn y cyfrin i farddoni ond nad yw traddodiad barddol gwrywaidd Cymru yn gwybod amdanyn nhw. Ond maen nhw'n dysgu i gynganeddu yn y cyfrin," meddai.

"Mae hi'n rhyw gymdeithas gudd sy'n cyfarfod i gynganeddu - efallai mod i wedi bod yn darllen gormod o Dan Brown a'r syniad o gymdeithasau cudd yma!" ychwanegodd.

Dywedodd iddi gael y syniad o gerdd gan Menna Elfyn yn dyfalu tybed ai merch o'r enw Ann sydd yn yr Anhysbys a welir dan rai cerddi a gyhoeddir!

"Meddwl oeddwn i efallai bod rhywbeth yn hyn a bod menywod wedi bod yn barddoni dros y blynyddoedd ond nad ydym ni wedi clywed amdanyn nhw,"

meddai.

Yr oedd y gyfres o lythyrau a sgrifennodd yn rhai oddi wrth Forwyn Llyn y Fan Fach at yr ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhys.

"Ddarllenais ei fod e â diddordeb yn ei hanes hi ac fe'i dychmyges i hi yn sgrifennu ato," meddai. 'Fi fy hun ar bapur'
Dywedodd ei bod wrth ei bodd yn sgrifennu ac enillodd yn barod y gadair yn eisteddfod ei hysgol, Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, a dod yn ail ac yn drydydd am goron yr Urdd y ddau dro arall y bu iddi gystadlu.

Am ei gwaith dywedodd:

"Fe ddwedodd Dafydd Rowlands - yr ydw i yn edmygydd mawr o'i waith - mai'r hyn yw ysgrif yw 'Ti dy hunan mewn geiriau ar bapur' ac rwy'n credu mai dyna yw fy llenyddiaeth i: yr hyn rydw i'n mwynhau ei sgrifennu; a gobeithio fod pobl eraill yn mwynhau ei ddarllen," meddai.

Coron fach i'w chadw Lle'n byd gwell
Ar ôl ennill y goron yn ei bro ei hun dywedodd:

"Allwn i ddim fod wedi ennill mewn lle gwell - a gweld cymaint o bobl oeddwn i'n adnabod yn y gynulleidfa.

"Roeddwn i wedi bod yn cuddio oddi wrthyn nhw drwy'r bore." Am y 'Rhiannonyddiaeth' a berthynai i'r gystadleuaeth dywedodd nad oedd yn ymwybodol o gwbl ohono nes tynnwyd sylw ato yn ystod seremoni'r coroni:
"Cyd-ddigwyddiad rhyfedd," meddai.

  • Mwy am y Coroni


  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy