BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
15fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Teithio i'r Steddfod
Cynghorion i eisteddfodwyr
Rhybuddiwyd eisteddfodwyr i feddwl yn ofalus am eu trefniadau teithio ar gyfer eu hymweliad ag Eisteddfod yr Urdd.

Disgwylir i ddydd Llun fod yn arbennig o brysur yn y Brifddinas a hithau nid yn unig yn ŵyl y banc ond hefyd yn ddiwrnod gemau pêl-droed ail-gyfle FA Coca Cola yn Stadiwm y Mileniwm.

Cau ffyrdd: Bydd ffyrdd canol dinas Caerdydd i gyd yn cael eu cau o amser cinio ymlaen.

Ar ben hynny bydd y ffyrdd o amgylch Canolfan y Mileniwm ac ym Mae Caerdydd wedi eu cau drwy'r dydd.

Bysiau a threnau:Mae'r Urdd a Chyngor y Ddinas yn cynghori pobl i ddefnyddio bysiau neu drenau yn hytrach na'u ceir.

Bydd mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gael ar Traveline Cymru - 0870 608 2 608 gyda gwybodaeth am drafnidiaeth ledled y ddinas a chysylltiadau o Orsaf Fysiau Canol Caerdydd i rannau eraill o Gaerdydd ac i bob cwr.

"Gan fod Gorsaf Fysiau Canol Caerdydd hefyd yn gartref i brif orsaf drenau Caerdydd, bydd trenau'n rhedeg oddi yma ar deithiau lleol, ledled Cymru a rhwydweithiau eraill ledled Prydain.

"Gall pob un sy'n teithio i'r Eisteddfod ar drên ddefnyddio, am ddim, eu tocyn o orsaf Canol Caerdydd - ddwy ffordd - ar fws Blue Bay Express rhif 6 sy'n rhedeg bob deng munud o gefn yr orsaf," meddai datganiad gan yr Urdd a'r Cyngor.

Ymhellach, mae gwasanaethau trenau uniongyrchol i Fae Caerdydd o orsaf drenau Queen Street.

Mwy o wybodaeth:Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau trenau ar wefan Arriva .

Parcio: "I'r rhai fydd yn teithio i Ganolfan Mileniwm Cymru gyda char, y cyngor gorau yw ceisio rhannu ceir am mai dim ond nifer gyfyngedig o lefydd parcio sydd ar gael yn agos i Ganolfen Mileniwm Cymru," rhybuddir.

. "Bydd y mannau parcio hyn wedi eu harwyddo o'r Peripheral Distribution Road (PDR) / A4232 ring road ar ôl twnnel Butetown."

Bydd gwasanaeth Park and Ride yn rhedeg o Leckwith (o ddydd Mawrth Mai 31 i tan ddydd Gwener Mehefin 3) o 9.30yb hyd at chwech y nos, wedi ei arwyddo o'r A4232.

Y mannau codi a gollwng fydd y Flourish wrth ymyl mynedfa'r Eisteddfod.

Bydd mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gael yn y wasg leol a'r cyfryngau a hefyd ar wefan Traffic Wales y Cynulliad Cenedlaethol.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy