BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Enwau - gweler diwedd y stori Neges Agor Drysau
Neges Ewyllys Da yn tynnu sylw at y digartref
Yn y llun: Laura Davies, Llinos Roberts, Owen Llywelyn, Shelter, Hannah Crowley, Owen Vaughan, Sian Llewelyn Jones.

Câr dy Gymydog oedd thema neges ewyllys da yr Urdd o lwyfan yr eisteddfod bnawn Mercher.

Yn canolbwyntio ar broblemau bod heb gartref cafodd ei llunio mewn cydweithrediad â'r mudiad Shelter

A dyma'r tro cyntaf erioed i'r neges ewyllys da, a ddarlledwyd gyntaf yn 1922, gael ei llunio gan ddysgwyr Cymraeg - disgyblion o Ysgol Gyfun Treorci, y Rhondda.

"Mae'r neges eleni yn gyfle i edrych ar nifer o'r rhesymau sydd yn achosi i bobl fod yn ddigartref yng Nghymru a Thramor ac yn gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifainc o effeithiau niweidiol digartrefedd ymhlith plant a phobl ifainc," meddai Llinos Roberts, swyddog cyd-ddyn a Christ yr Urdd.

I'r Cynulliad
Y mae rhai wythnosau er pan gyflwynodd deugain o ddisgyblion Treorci y neges i aelodau o'r Cynulliad Cenedlaethol ond daeth cyfle i gyfarch cynulleidfa fwy oddi ar lwyfan prifwyl yr Urdd bnawn Mercher.

"Roedd y materion sy'n cael eu codi yn y neges yn adlewyrchu gwir bryderon pobl ifainc Cymru," meddai Llinos Roberts gan ychwanegu y bydd yn gychwyn ymgyrch a elwir yn Agor Drysau i ddysgu pobl ifainc am broblemau bod heb gartref a phroblemau gorfod byw mewn tai gwael yng Nghymru.

Ffeithiau brawychus
Ymhlith y ffeithiau brawychus a ddaeth i'r amlwg yn sgil ymgyrch Agor Drysau datgelwyd fod dros 98,000 o dai anaddas yng Ngymru ac hyd at 50,000 o blant yn byw mewn tai gwael lle maen nhw mewn perygl o ddioddef oddi wrth glefydau fel asthma.

Yn waeth byth, mae hon yn broblem sy'n gwaethygu yn ôl neges disgyblion Treorci.

"Mae llawer o bobl yn byw allan ar y stryd ac o leiaf 1,795 o blant dibynnol yn byw mewn llety dros dro," meddai'r neges.

"Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn wynebu cael eu troi allan o'u cartref am eu bod â dyled rhent," ychwanegwyd.

Dywedwyd na all person sy'n gorfod byw ar y stryd fyw yn llawer hynach na 42 oed, ar gyfartaledd.

fgh"Bydd Agor Drysau yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai, derbyn hyfforddiant, trefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth ac yn cefnogi apêl Agor Drysau, a gweithdy cynradd arbennig yn edrych ar y cartref," meddai Llinos Roberts.

Shelter Cymru




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy