BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Catherine Ayers - tynnu sylw yn y cyntedd Diwrnod cyntaf da
Dwy fil yn fwy na'r llynedd
Cafodd Eisteddfod yr Urdd yr hwb yr oedd y trefnwyr yn gobeithio amdano ar y diwrnod cyntaf gyda dwy fil yn fwy na'r llynedd yn dod yno.

Ac yr oedd pob arwydd ar y diwrnod cyntaf fod yr arbrawf yng Nghaerdydd ar y ffordd i fod yn llwyddiant.

Nid yn unig yr oedd cyffro ar y maes o gwmpas Canolfan y Mileniwm ond yr oedd bwrlwm rhyfeddol yn y cyntedd hefyd wrth i blant, ymwelwyr a chystadleuwyr wau drwy'i gilydd gydag hyd yn oed ambell i berfformiad byrfyfyr.

Yn eu plith yr oedd Catherine Ayers, un o sêr y cyngerdd agoriadol, gan ddenu edmygedd sicr yr ymwelwyr.

Yn ôl y ffigurau swyddogol bu 21,382 o ymwelwyr a hynny ddwy fil yn fwy nag a ymwelodd a Maes Mona, Sir Fôn y llynedd.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau: "Mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig i agor yr Eisteddfod. Mae'r maes wedi bod yn llawn cyffro a bwrlwm o ben bore gyda phobl yn heidio i lawr i'r Bae i ymweld â'r maes unigryw hwn.

Nid yn unig fod Theatr ysblennydd Donald Gordon wedi bod dan ei sang ers y gystadleuaeth gyntaf ond mae pobl wedi bod yn tyrru i mewn i'r cynteddau i sicrhau eu sedd er mwyn gwerthfawrogi y wledd hon o ddiwylliant a thalent ieuenctid Cymru ar ei gorau."

Yn wir fel ag yr oedd pobl yn dod allan o'r neuadd yn dilyn y brif seremoni yr oedd y grisiau at y drysau yn orlawn o gynulleidfa newydd yn ceisio mynediad.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy