BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Owain Canu clodydd trydydd tlws
Trydydd tro - goeliwch chi - yn brif gyfansoddwr yr Urdd
Am y trydydd tro, enillwyd Tlws Prif Gyfansoddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan Owain Llwyd.

Yn aelod o Aelwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor mae o hefyd wedi ennill tlws y cerddor ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol!

Ar ôl ennill Tlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2002 aeth yn ei flaen i ennill Tlws y Cerddor Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003; Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004, Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004 ac yna, dychwelyd nôl i Gaerdydd i gyflawni'r gamp eto eleni.

Daw Owain Llwyd o Lyndyfrdwy, ger Corwen, Sir Ddinbych, ac roedd yn dathlu carreg filltir bwysig arall yr wythnos hon gyda'i ben-blwydd yn 21.

Mae ar fin graddio o Brifysgol Cymru, Bangor gyda BMus ac yn bwriadu dychwelyd yno i barhau gyda'i astudiaethau mewn cyfansoddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar ôl derbyn ei wobr nos Wener dywedodd fod ei ddiolch yn bennaf i'w rieni a'i frawd, Aled, am eu holl anogaeth a'u cefnogaeth.

Ond eangodd y rhwyd i gynnwys ei ffrindiau a'i holl athrawon yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy, Ysgol Y Berwyn Y Bala a'r Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Bangor.

Ar gyfer y gystadleuaeth eleni cyfansoddodd ddarn ar gyfer cerddorfa lawn, Y Môr Celtaidd.

Fe'i seiliwyd ar linell felodaidd, cyfres o harmonïau cordiol a thema benodol gan ddefnyddio technegau cyfansoddi, cantus firmus a talea.

Dywedodd i'r rhythm ddod o Jig Gymreig, Jig Owen, sy'n seilio strwythur y darn ond nad yw byth yn cael ei glywed.

Cyfansoddwyd y gwaith yn wreiddiol fel darn ar gyfer wyth o offerynnau (chwythbrennau a llinynnol) adref yng Nglyndyfrdwy yn 2004.

Eleni, aeth ati i osod y darn ar gyfer cerddorfa lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon.
Dylanwadau cerddorol ar y gwaith yw cyfansoddwyr megis Debussy, James Macmillan a John Adams.

Ef aeth a'r ail wobr yn y gystadleuaeth hefyd, gydag Eilir Owen Griffiths o Aelwyd CF1, Gorllewin Caerdydd yn drydydd.




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy