BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
O'r Maes
Mererid Hopwood Bardd Plant 2005-06
Mererid Hopwood yn fardd plant
Y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yw Bardd Plant newydd Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad oddi ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd nos Fawrth.

Enillodd Mererid Hopwood ei chadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001.
Enillodd y Goron ym Meifod ddwy flynedd yn ôl.

Mae'n dilyn Tudur Dylan Jones yn fardd plant.

Mae hon yn wythnos brysur i Mererid, hi yw un o lywyddion y dydd , ddydd Iau, ac mae'n cyhoeddi dau lyfr, casgliad o Hwiangerddi a stori i blant, Ynys yr Hud.

MereridEr nad oes ganddi gynlluniau pendant ar gyfer ei blwyddyn yn fardd plant dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda phlant ar hyd a lled Cymru.

"Ond yr ydw i'n rhagweld y bydda i yn dysgu llawer mwy gan y plant nag a fyddan nhw yn ei ddysgu gen i," meddai.

Ychwanegodd mai'r hyn sy'n gwneud cydweithio â phlant yn gymaint o bleser yw eu dychymyg anhygoel.

"Mae eu dychymyg yn ddiderfyn ac maen nhw'n gweld yn bell iawn," meddai.

Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Academi ac Urdd Gobaith Cymru yw Bardd Plant Cymru, gyda'r bwriad o godi proffil barddoniaeth ymysg yr ifanc, a'u hannog i greu a mwynhau cerddi.

Mererid Hopwood yw'r chweched bardd i dderbyn y teitl, a dim ond yr ail ferch.

Mae'n dilyn, Myrddin ap Dafydd, Meirion McInyre Huws, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones a Tudur Dylan.

holi MereridMae'n derbyn yr anrhydedd yn y ddinas lle'I ganwyd - ond yn Sir Benfro y mae ei gwreiddiau.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn mynd ymlaen i raddio mewn Almaeneg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth ac ennill doethuriaeth o Goleg Prifysgol Llundain.

Yn Llangynwr ger Caerfyrddin mae hi'n byw yn awr gyda Martin ei gŵr, a'u tri phlentyn, Hannah, Miriam a Llewelyn.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn. Rwy wedi cael cyfle i gynnal gweithdai gyda phlant yn y gorffennol ac wedi mwynhau mas draw - rwy'n siŵr y bydd hi'n flwyddyn o hwyl ac y caf innau ddysgu llawer. Gobeithio'n fawr y gallaf helpu ysgogi plant i fwynhau cerddi o bob math - eu darllen, eu dysgu a'u cyfansoddi!" meddai.

Llywyddion



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy