Siarad Cymraeg - i'r genhedlaeth nesaf

Dysgwr yn llongyfarch dysgwraig - Jason Mohammad, llywydd y dydd.


Pan ddychwelodd i fyw yng Nghymru yn wyth oed doedd gan Caroline Hagg ddim Cymraeg o gwbl.

Llai na deng mlynedd yn ddiweddarach enillodd y ferch o Ysgol Gyfun Trefynwy yng Ngwent Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd - gyda 20 o ddysgwyr eraill yn cystadlu yn ei herbyn.

Ac mae Caroline wedi gwneud addewid yn barod i fagu ei phlant ei hun i siarad Cymraeg os caiff hi rai!

Ychwanegodd i'w buddugoliaeth fod yn un cwbl annisgwyl iddi a'i bod wrth ei bodd a'i gwaith wedi ei ganmol gymaint gan y beirniaid Nerys Roberts a Robat Powell.

Yn byw ym mhentref bychan Penallt ger Trefynwy symudodd Caroline yn ifanc, ifanc, iawn o Benybont i fyw yn Swydd Lincoln, Lloegr. Symudodd y teulu i Sir Fynwy pan oedd hi'n wyth oed.

A dyna pryd y dechreuodd ddysgu Cymraeg yn yr ysgol a hithau'n cael ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ac y mae hi bellach ymhlith y rhai cyntaf erioed yn Ysgol Gyfun Trefynwy i astudio'r Gymraeg ar gyfer Lefel A.

Mae'n astudio hefyd, Sbaeneg, Almaeneg a Llenyddiaeth Saesneg gan wneud ei arholiadau Hanes a Ffrangeg flwyddyn yn gynnar.

Dywedodd fod ganddi hoffter arbennig o ieithoedd.

"Rydw i wrth fy modd gyda ieithoedd tramor - yn enwedig Ffrangeg achos mae Mam yn gallu siarad Ffrangeg felly dwi wedi siarad Ffrangeg ers yn blentyn," meddai.

Dim syndod felly mai ffugenw Ffrangeg a ddefnyddiodd ar gyfer y gystadleuaeth.

"Sais yw fy nhad ond Cymraes yw fy mam, felly rydyn ni'n defnyddio ambell i air o Gymraeg gartref hefyd, fel 'cwtch' ond does neb yn y teulu'n siarad yr hen iaith o gwbl," meddai.

Rydw i'n falch iawn bod yn Gymraes, ond fel rydych chi'n gallu dychmygu, mae bod yn Gymraes yn eitha' anodd yn ein hardal ni.

"Rydych chi'n gallu gweld y ffin gyda Lloegr o'n hysgol ni ond mae'n rhaid i ni, ieuenctid Cymru, gadw'r hen iaith yn fyw!"

Yn ogystal â defnyddio'r Gymraeg bob dydd yn yr ysgol mae hi a'i ffrindiau yn siarad yr iaith pan yn mynd allan gyda'i gilydd.

"Rydw i'n meddwl bod dysgu iaith yn fwy nac astudio yn y dosbarth - maen rhaid i chi fyw gyda'r iaith, ei defnyddio hi bob dydd. Mae'r Gymraeg yn rhan arbennig o fy mywyd a fy hunaniaeth," meddai.

"Rydw i eisiau defnyddio'r Gymraeg drwy fy mywyd ac eisiau magu fy mhlant i siarad Cymraeg," meddai.

Frances Eve Trace, eto o Ysgol Gyfun Tredegar ddaeth yn ail gyda Tanya Powell o Goleg Sir Gâr a Luke Jones o'r Coed Duon, Gwent yn gydradd drydydd. Rhoddwyd y fedal gan Ysgol Uwchradd Caerdydd a noddwyr y seremoni oedd Gyrfa Cymru.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.