Advertisement

Mosgito yn y Steddfod

Mosgito ym Mae Colwyn y llynedd

Cyfle i fod yn seren ar y we!

Yn dilyn llwyddiant ei hymweliad ag Eisteddfod yr urdd y llynedd bydd y rhaglen deledu Mosgito yno i bigo diddordeb pobl ifainc yng Nghaerdydd eleni.

"Bydd 'na lond pabell o hwyl gyda Mosgito ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd!" yw'r addewid.

bydd cyfle i gwrdd â'r criw a chael tynnu llun gyda nhw.

Ar ben hynny bydd tips colur a ffasiwn neu gellir jyst ymlacio a joio yng nghwmni Erin, Ifan a Trystan.

"Bydd cyfle i fod yn seren ar y we hefyd!" meddan nhw.

Ac os oes perthynas neu ffrind yn cystadlu gellir anfon 'Negeseuon pob lwc' atyn nhw ar negesfwrdd Mosgito!


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.