Neb yn deilwng o gadair 2009

Cadair wag Eisteddfod 2009

Siom gafwyd ym mhrif seremoni ddydd Iau ar faes yr Eisteddfod eleni, gyda neb yn cael ei feirniadu'n deilwng i ennill y gadair.

Beirniaid y gystadleuaeth oed Hywel Griffiths a Karen Owen, a'r dasg oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun 'Ymlaen'. Er y siom, eglurodd y beirniaid eu penderfyniad:

"Nid oes un o'r cerddi yn cyfuno syniadaeth glir a meistrolaeth o dechneg yn ddigon boddhaol i ddyfarnu anrhydedd cadair yr Urdd iddi. Yn anffodus, felly, mae'n rhaid i ni atal y wobr eleni. Hyderwn, fodd bynnag, y gall nifer o'r cystadleuwyr yma gyrraedd cadair yr eisteddfod yn y blynyddoedd sydd i ddod."

Chwarter canrif di-dor o gadeirio

Mae'r Urdd wedi mwynhau chwarter canrif di-dor o gadeirio - y tro olaf i'r gadair gael ei hatal yn Eisteddfod yr Urdd ordd yn Eisteddfod 1984 yn Yr Wyddgrug.

Fel Hywel Griffiths, roedd Meistr y Ddefod - Aneirin Karadog - hefyd yn un o gyn ennillwyr y gadair, a chrynhodd ei deimladau yntau ynglyn a'r diffyg teilyngdod:

"Trist nad oes teilyngdod..."

"Mae'n drist nad oes teilyngdod, ond yn amlwg mae safon i'w gynnal ac mae hynny'n dweud llawer am yr hyn a ddisgwylir. Gobeithaf y bydd hyn yn sbardun i sicrhau gwaith o safon uwch yn y blynyddoedd i ddod yn y gystadleuaeth - a gobeithio na fydd hyn yn eu digaloni. Y peth i'w benderfynu nawr yw ble mae'r gadair yn mynd..."

Rhoddwyd y gadair eleni gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, ac fe'i gwnaethpwyd gan Arnold James o Lanelli.

Cyfarchiad pen-blwydd arbennig gan Dic Jones

Roedd y seremoni eleni yn nodi hanner can mlynedd ers i'r Archdderwydd Dic Jones ennill ei gadair olaf yn yr Urdd, ac fe ddarllennodd Aneirin Karadog gywydd arbennig a ysgrifennwyd gan Dic Jones i ddathlu pen-blwydd Eisteddfod yr Urdd yn 80 oed:

Efalle nad yw'r henoed
Yn rhedeg i'w hwythdeg oed.
Ond mae hi, ferch Syr Ifan,
Yn ei chelf, a'i llên a'i chân
Yn wahanol i'r rheiny'n
Dod yn iau wrth fynd yn hŷn.

Ni'r hen do, mi gawsom gynt
Ein doe yn y deheuwynt
Yn nhrydan ein direidi
A gwyddfid ein h'ienctid ni.

Cawsom iaith lle cawsem hwyl
Ar adegau mawr dygwyl,
A llwyfan a banllefau
Am ryw hyd yn mawrhau,
A'r gwinwydd bob dydd yn dod
Â'u gwin hwythau'r genethod,
Pan oedd llif y gwaed ifanc
Yn ynni twym yn ein tanc.
Ni'r hen do, bu'n bêr ein dydd,
Ond rhain sy bia trennydd.

Eu ceinciau hwy yw cân cog
Orawenus Llangrannog,
A'r cwch sy'n mentro cychwyn
I groesi'r lli yng Nglan-llyn,
A'n braint yw gwylio o'r bru
Ein blagur yn datblygu
A dwlu ar y dalent
Na phrinhâ o Fon i Went.

Cadair 2009 - Rhodd y Llyfrgell Genedlaethol


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.