|
1. Torri'r
papur crêpe yn sgwariau mawr, plygu nhw yn hanner a dal ati
i blygu'r papur drosodd nes bod gennyt stribedyn hir tua 2 centimedr
ar draws. |
|
2. Defnyddio'r
cortyn i glymu cwlwm yng nghanol y stribedyn, ac agor y plygion allan.
|
|
3. Lliwio
siapiau lleuad a sêr ar y cerdyn. |
|
4. Torri
pob siâp allan.
|
|
5.
Paentio
dy siapiau gyda'r paent aur ac arian. Tyllu twll bach yn agos at ymyl
pob siâp ac wedyn rhoi darn o gortyn drwodd. Clymu'r cortyn
gyda chwlwm. |
|
6. Torri'r
rhuban y ddarnau o tua 20 centimedr. Plygu'r darnau o ruban yn eu
hanner a'u rhoi mewn parau.
|
|
7. Rhoi
un darn wedi plygu ar draws un arall a'u gludo gyda thâp gludiog.
|
|
8. Nawr
rwyt ti'n barod i addurno coeden Nadolig! |