bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lewis Jones gyda brodorion llwyth y Tehuelche Darlith i gofio Lewis Jones
Tachwedd 2004
Fel "yr arwr anhysbys" y cafodd un o brif arloeswyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ei ddisgrifio mewn darlith i nodi canmlwyddiant ei farw.


Er bod un o brif drefi'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia wedi ei henwi ar ôl Lewis Jones - argraffydd o Gaernarfon a groesawodd y fintai gyntaf o ymfudwyr i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865 - ychydig sydd wedi ei sgrifennu amdano.

Ef a archwiliodd y tir gyda Love Jones-Parry ac a aeth ati wedyn i annog y Cymry i ymfudo yno er mwyn sefydlu gwladfa lle gallent fyw bywyd trwyadl Gymraeg.

Dan feirniadaeth
Daeth dan feirniadaeth am eu hannog i'r fath le pan welwyd ansawdd y tir oedd ar gyfer yr ymfudwyr ac y mae'n parhau yn ddirgelwch pam yn union y'u camarweiniwyd yn y fath fodd gan Gymry mor egwyddorol.

Dafydd Tudur - gyda Lewis Jones yn y cefndirFodd bynnag fe gynigwyd un eglurghad posibl gan ysgolhaig o brifysgol Bangor, Dafydd Tudur, a wahoddwyd i draddodi darlith goffa gan Gymdeithas Cymru Ariannin i nodi canmlwyddiant marw Lewis Jones, Tachwedd 26 eleni.

Awgrymodd ef i Lewis Jones sylfaenu ei sylwadau ar yr hyn a welodd yn Rio Negro a oedd yn ardal dra gwahanol i un Dyffryn Camwy, yn ffrwythlon ac yn ir.

Oherwydd hiraeth affwysol am Gymru yn ystod ymweliad i archwilio'r wlad mae'n bosib na chafodd amser i ymweld ag ardal y daethpwyd i'w hadnabod fel Dyffryn Camwy maes o law.

Ychwanegodd Dafydd Tudur o Brifysgol Bangor, mai'r hyn sy'n bwysig wrth bwyso a mesur cyfraniad Lewis Jones yw canolbwyntio ar ei gyfraniad yn dilyn y cyfnod dadleuol hwn a'r hyn y gallodd ei gyflawni er lles y Wladfa a'i phobl.

Yr oedd yn ddarlith y bu disgwyl mawr amdani ymhlith y rhai sy'n ymddiddori yn y Wladfa Gymreig gan mai bratiog iawn yw'r wybodaeth sydd yna am Lewis Jones.

"Ychydig o wybodaeth sydd yna am Lewis Jones ac ychydig iawn sydd wedi ei sgrifennu amdano," meddai Dafydd Tudur.

Daeth ef, fodd bynnag, o hyd i lawer o ffynonellau cyfoes yn sgil gwaith ymchwil mae'n ei wneud i fywyd a gwaith Michael D Jones, pennaf ysgogydd y mudo i Batagonia.

Yng Nghaernarfon y ganed Lewis Jones ond treuliodd gyfnodau yng Nghaergybi ac yn Lerpwl gan ymweld â Phatagonia gyntaf yn 1862 i archwilio'r wlad gyda Love Jones-Parry o Ben Llŷn.

Ef a ddaeth i gytundeb ynglŷn â'r tir gyda chynrychiolydd y llywodraeth yn Buenos Aires, Dr Rawson.

Yr oedd disgrifiadau blodeuog y ddau o'r crasdir anial a digroeso mor galonogol y perswadiwyd bron i 200 o Gymry droi cefn ar galedi a gorthrwm eu gwlad eu hunain a mudo yno ar y Mimosa.

Yno, yn eu disgwyl mewn bae a enwyd wedyn yn Borth Madryn, yr oedd Lewis Jones ac Edwin Roberts.

Yn groes i bob disgwyl, o ystyried yr olwg gyntaf a gafwyd ar y lle, bu'r ymfudo'n llwyddiant gyda'r Cymry yn dofi'r tir a'i droi'n ffrwythlon a chreu cymuned Gymraeg.

Arweinydd dylanwadol
Yno, daeth Lewis Jones yn arweinydd arloesol a dylanwadol a bydd Dafydd Tudur yn dadlau yn ei ddarlith mai dyna ei brif gyfraniad a'r prif reswm dros ei gofio.

Dewiswyd ef yn Rhaglaw y dalaith ac ef fyddai'n dadlau dros fuddiannau'r Cymry gyda llywodraeth Ariannin.

Cofgolofn:  Lewis Jones yn estyn ei law yn NhrelewOnd ni fu ei lwybr yn gwbl esmwyth ac fe'i carcharwyd gan yr awdurdodau oherwydd ei safiad dros hawliau'r Cymry.

Sefydlodd ddau bapur newydd Cymraeg yno, Ein Breiniad yn 1878 ac Y Drafodwedyn yn 1891 - papur sy'n dal mewn bodolaeth ac a olygwyd tan ei marwolaeth yn ddiweddar gan Irma Hughes de Jones.

Yn 1898 cyhoeddodd lyfr yn olrhain hanes y Wladfa, Y Wladfa Gymreig.

Ef oedd tad Eluned Morgan sy'n cael ei chydnabod fel prif awdur rhyddiaith y Wladfa ac ar ei ôl ef yr enwyd Trelew lle mae cerflun trawiadol ohono heddiw.

Traddododd Dafydd Tudur ei ddarlith, a noddwyd gan Yr Academi, Yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd gyda''r ddarlith yng Nghaerdydd ar Dachwedd 26, union ddiwrnod marwolaeth Lewis Jones gan mlynedd yn ôl.






cysylltiadau
Y Wladfa'n denu'r Cymry

Lluniau cynnar o Batagonia

Gorfod dychwelyd i Batagonia

de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy