bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Michael D Jones Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig
Araith a draddodwyd gan Dafydd Tudur yn ystod dathliadau Gŵyl y Glaniad 2005 yn Y Bala.

Gant a deugain o flynyddoedd yn ôl i'r wythnos nesaf, ar Orffennaf 28, 1865, glaniodd mintai'r Mimosa ar draeth yn New Bay ar arfordir dwyreiniol Patagonia.

Prin y byddai'r ymfudwyr wedi rhagweld yr helyntion oedd i'w wynebu yn y blynyddoedd cynnar hynny, ond er gwaethaf pob caledi, tyfodd yno gymuned ffyniannus o siaradwyr Cymraeg.

Dafydd Tudur yn annerchFel y mae nifer ohonom yn gwybod, rwy'n siwr, mae'r iaith a'r diwylliant Cymreig yn rhan amlwg o fywyd cannoedd o ddisgynyddion i'r ymfudwyr o Gymru sy'n byw yn nyffryn Camwy ac wrth odre'r Andes heddiw.

Brwd a theyrngar
Y prif reswm dros ddathlu Gwyl y Glaniad yn nhref Y Bala yw mai yma y trigai Michael D. Jones, y gŵr a ddisgrifiwyd fel 'Tad y Wladfa'.

Argyhoeddwyd Michael D. Jones fod angen sefydlu Gwladfa Gymreig tra'n ymweld â'r Taleithiau Unedig ar ddiwedd y 1840au, ac unwaith y cychwynwyd mudiad yng Nghymru er mwyn gweithio at yr amcan hwnnw, bu'n gefnogwr brwd a theyrngar iddo.

Yn wir, cyfrannodd at ei weithgarwch mewn sawl ffordd.
  • Cyhoeddodd bamffled a llythyrau yn esbonio amcanion y mudiad a bu'n dadlau dros yr achos ar lwyfannau a festrioedd ledled Cymru.
  • Bu'n olygydd ar bapur newydd y mudiad, sef Y Ddraig Goch, a bu'n ceisio canfod ffyrdd o godi arian i ariannu'r prosiect.
Ond yn ei fethiant i godi'r arian hwnnw y gwnaeth Michael D. Jones ei gyfraniad pennaf i'r mudiad.
Ar ddiwedd 1862, talodd gyfran o'r costau i anfon Lewis Jones a Love Jones-Parry i dde America i archwilio lleoliadau posibl ar gyfer y Wladfa.

A phan wrthodwyd eu telerau hwy gan Gyngres Ariannin yn haf 1863, cyfrannodd Michael D Jones £100 i anfon trafnoddwr Llywodraeth Ariannin yn Lerpwl i Buenos Aires yn y gobaith y gallai ail-gychwyn y trafodaethau.

Gwariant annisgwyl
Er hynny, bychan oedd y cyfraniadau hyn i'r mudiad o'u cymharu â gwariant annisgwyl Michael D. Jones ar y fenter Wladfaol ym Mai 1865.



Bedd Michael D Jones yn Yr Hen Gapel, LlanuwchllynErbyn hynny, yr oeddent wedi cael caniatâd Llywodraeth Ariannin i wladychu dyffryn y Chupat ym Mhatagonia ond wedi misoedd o deithio drwy Gymru yn hel enwau ar gyfer y fintai gyntaf, daeth y newyddion drwg na fyddai Halton Castle, y llong a oedd i gario'r ymfudwyr cyntaf i'r Wladfa, wedi dychwelyd o'i siwrnai flaenorol erbyn y dyddiad a drefnwyd.

Wrth fod yr ymfudwyr eisoes wedi cyrraedd Lerpwl, bu raid gweithredu ar frys. Talwyd am lety i'r teithwyr tra bo'r arweinwyr yn chwilio am long arall.

Cafwyd llong arall, sef Mimosa, i gludo'r ymfudwyr i Batagonia, ond bu raid disgwyl mis nes fod honno'n addas i gario pobl.

O boced Michael D. Jones y daeth yr arian i dalu yr holl gostau annisgwyl hyn, a chymerodd forgais ar Fodiwan i wneud hynny.

Yn wir, mae'n amheus a fyddai'r Mimosa wedi cychwyn y daith o Lerpwl ar Fai 28, 1865, oni bai am barodrwydd Michael D. Jones a'i wraig i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn ar gyn lleied o rybudd.

Aros ar ôl
Dros gyfnod o bron i ddeng-mlynedd ar hugain, bu Michael D. Jones yn hyrwyddo'r Wladfa yn y wasg yng Nghymru.
Ef oedd yr amlycaf o arweinwyr y mudiad a benderfynodd aros ar ôl yng Nghymru ym 1865, ac oherwydd iddo barhau ei weithgarwch dros y Wladfa, daeth ei enw bron yn gyfystyr â'r mudiad yn y blynyddoedd canlynol.

Yng ngholofnau papurau fel Baner ac Amserau Cymru, Y Dydd a'r Celt, cyhoeddodd ysgrifau'n sôn am y datblygiadau diweddaraf yn y Wladfa, llythyrau yr oedd wedi eu derbyn naill ai yn bersonol o'r Wladfa neu gan deuluoedd a chyfeillion y bobl a oedd yno, a hysbysebion ar gyfer llongau a oedd i deithio yno.

Wrth gwrs, ni bu'r fenter yn ddiwrthwynebiad ychwaith, ac, yn aml iawn, Michael D. Jones fyddai'r cyntaf i ymateb i'r feirniadaeth.

Ei ddau fab
I orffen, dylid cyfeirio at y cysylltiadau teuluol oedd gan Michael D. Jones â Phatagonia.
Yn ystod y 1880au, aeth ei ddau fab, Llwyd a Mihangel ap Iwan, i'r Wladfa.

Ymfudodd Llwyd yno yn 24 oed ym 1886. Tir-fesurydd ydoedd wrth ei alwedigaeth ac yn fuan wedi ei gyrhaeddiad cafodd waith gyda chwmni oedd yn adeiladu rheilffordd rhwng Porth Madryn a Dyffryn Camwy, ac yn ddiweddarach, bu'n un o arloeswyr Cwm Hyfryd.

Yr oedd Mihangel flwyddyn yn iau na Llwyd, a dilynodd yntau ei frawd i dde America wedi iddo raddio mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin ym 1887.

Dafydd TudurDim ond ychydig dros flwyddyn y bu yntau yn y Wladfa cyn symud i dalaith Buenos Aires, ond gwyddom fod ei ddisgynyddion ef yn ogystal â rhai o or-wyrion Llwyd a'u teuluoedd yn byw yn y rhannau o'r wlad a boblogwyd gan y Cymry yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Teimlo'r cysylltiad
Mae llawer mwy i'w ddweud am gysylltiadau Michael D. Jones â'r Wladfa, ond gobeithiaf fod y grynodeb hon o'i gyfraniad i'r mudiad wedi caniatáu i'r rhai ohonom sydd wedi ymgynnull yma yn Y Bala, dros chwe mil o filltiroedd o Batagonia, deimlo'r cysylltiad hanesyddol sy'n bodoli rhwng y dref hon a Phorth Madryn, dyffryn Camwy a godre'r Andes, lle rwy'n siwr y bydd dathlu mawr hefyd yr wythnos nesaf.

  • Dathlu Gŵyl y Glaniad 2005. Adroddiad a lluniau. Cliciwch




cysylltiadau
Dadorchuddio cofeb i Michael D Jones

Y cenedlaetholwr mwyaf ers Owain Glyndwr?

Tebot Michael D Jones

Gwefan Cymeithas Cymru Ariannin

Dathlu Gŵyl y Glaniad 2005

de america

Yr Ariannin
Apel am pesos coch y delyn

Newyddion y Gaiman

Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

Ymweliad criw Ystradgynlais

Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

Eisteddfod Trevelin 2004

Taith côr i ymweld â gwreiddiau

Newyddion

Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

Kyffin Williams ym Mhatagonia

Marw Ieuan May Jones

Agor Ysgol yr Hendre

Chwilio am wreiddiau

Newyddion Gorffennaf 2006

Taith bro'r Gadlas

Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

Teyrnged i ffotograffydd blaengar

O Batagonia i wlad ei dadau

Llwyddiant cynllun athrawon

Darlith i gofio Lewis Jones

Diwrnod y gêm

O Grymych i Ariannin

Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

Hwb i ddawns y glocsen

Angen cymorth yn Nhrelew

Croesawu ymwelwyr

Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

Cofio'r croesawydd siriol

Newyddion Rhagfyr

Newyddion Mehefin 2006

Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

Cofio Moelona

Cofio'r Mimosa

Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

Ysgol feithrin

Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

Newyddion Mawrth 2006

Marw Marta Rees, Plas y Coed

Marw Mair Davies

Ethol Cymro yn faer

Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

Yn y llwch a'r lludw

Cyfarfod Karen a Glyndŵr

John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

O Fro Dinefwr i'r Wladfa

Enw newydd i ysgoloriaeth

Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

Aelodau newydd
Gorsedd y Wladfa 2008


Cofio Virgilio Horacio González

Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

Gŵyl y Glaniad 2005

Pecynnau i ysgolion

Darganfod y Gymraeg

Eisteddfod 2007

Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

Ysgol y Dreigiau Bach

Cinio blynyddol

Croeso i gylchgronau Cymraeg

Marw cerddor neilltuol

Ysgol Trelew

Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

Cadair y Wladfa 2005

'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

Cyhoeddi hanes Bethlehem

Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

Athrawon 2007

Arwyddion dwyieithog

Colli bardd swynol

Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

Mimosa - canmol y fenter

Y Mimosa

Maradona:

Lluniau Patagonia

Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

Sgrech y dathlu!

Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

Cofio Fred Green

Edrych ymlaen at lanolin

Profiad Patagonia

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Dafydd Du ym Mhatagonia

Nadolig yng ngwres yr haf

Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

Ymweliad Côr y Wladfa

Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy