bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Walter Ariel Brooks (oddi ar ei ddalen ar wefan Prifysgol Caerdydd) 'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia
Dirywiad y Gymraeg ym Mhatagonia:
Myfyriwr ymchwil yn beio Llywodraeth yr Ariannin

Er bod sawl arwydd calonogol y dyddiau hyn fod sefydliadau statudol yn yr Ariannin yn gefnogol i'r iaith Gymraeg datgelir i lywodraeth y wlad fynd ati'n fwriadol i geisio 'niwtraleiddio'r' iaith a Chymreictod ar un adeg.

Archenteiddio plant
A'r Llywodraeth sy'n cael y bai gan Walter Ariel Brooks, Cynorthwy-ydd Ymchwil a Thiwtor Iaith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am fod yn bennaf gyfrifol am y dirywiad yn y Gymraeg a'r ymdeimlad Cymreig yn y Wladfa ym Mhatagonia yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Mewn erthygl yn rhifyn mis Hydref 2008 o gylchgrawn Y Traethodydd dywed i'r Llywodraeth ddefnyddio'r ysgolion i 'Archenteiddio' plant y Cymry a'u gwneud yn Archentwyr i'r carn oherwydd ei bod yn gweld y Gymraeg fel gelyn i undod yr Ariannin.

Yn Polisïau Addysg, Iaith a Hunaniaeth yn y Wladfa (1900-1946) dadleua fod pob pwnc yn yr ysgol gynradd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau'r ymdeimlad cenedlaethol:

"Mae modd gwneud gosodiadau gwladgarol wrth ddysgu pwnc fel Glendid hyd yn oed," meddai cyhoeddiad swyddogol y Cyngor Cenedlaethol Addysg ym 1908.

Disodli athrawon
Ac yn Nyffryn Camwy dywed i athrawon Cymreig Trelew a Gaiman gael eu disodli gan athrawon Archentaidd er mwyn sicrhau mai "Sbaeneg yn unig fyddai iaith y cyfathrebu a'r diwylliant Archentaidd, yr unig un dilys," meddai Mr Brook.

Hefyd, meddai, roedd yn rhaid i bob ysgol gadw baner yr Ariannin mewn man gweladwy, gan ei chodi cyn dechrau'r gwersi a'i thynnu i lawr ar ôl gorffen.

Gwaharddwyd unrhyw symbolau neu ddathliadau oedd yn groes i'r "ysbryd cenedlaethol Archentaidd", meddai.

Ychwanega fod deddfau eraill hefyd yn gymorth i niwtraleiddio'r rhai a allai dynnu'n groes â'r system a gorfodwyd dynion i wneud gwasanaeth milwrol er mwyn eu trwytho yn symbolau'r wlad newydd, ac roedd dylanwad y fyddin a'r llynges yn drwm ar ysgolion Patagonia.

O ganlyniad peidiodd llawer o Gymry ifanc â siarad Cymraeg ymysg ei gilydd a chyda'u plant o fewn cenhedlaeth hyd yn oed mewn llefydd fel y capel a'r ysgol Sul.

Cefnu ar yr iaith
Bu newidiadau sosio-economaidd hefyd yn fodd i sicrhau bod y polisi yn dwyn ffrwyth a dinistriwyd statws cymdeithasol y Cymry gan newidiadau cymdeithasol fel cwymp Cwmni Masnachol y Camwy ac argyfwng economaidd y 1930au.

"Cymhellodd agwedd gul y Llywodraeth y Cymry i gefnu ar eu hiaith a'u diwylliant," meddai Mr Brook gan ddadlau i'r polisïau addysg a'r datblygiadau sosio-economaidd gael effaith andwyol ar yr hunaniaeth Gymreig nes bod y traddodiadau Cymraeg yn anathema i'r rhan fwyaf o Gymry Patagonia erbyn Wythdegau yr ugeinfed ganrif.

  • Y Traethodydd yw cylchgrawn hynaf Cymru a'r Gymraeg. Fe'i cyhoeddir bedair gwaith y flwyddyn yn cynnwys erthyglau yn ymwneud â hanes, llenyddiaeth diwinyddiaeth, athroniaeth ac yn y blaen. Gellir prynu'r Traethodydd trwy siopau llyfrau leol neu fe ellir tanysgrifio'n flynyddol (£3.00 y rhifyn, £12 y flwyddyn) trwy gysylltu â Gwasg y Bwthyn, Lôn Ddewi, Caernarfon, LL55 1ER.






  • cysylltiadau
    Walter Ariel Brooks - gwefan Prifysgol Caerdydd.

    Y Traethodydd

    Erthyglau eraill am Batagonia

    Cymdeithas Cymru Ariannin

    de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy