bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mimosa gan Tony Fancy Y Mimosa
Cefndir y llong a'r fordaith fawr

  • Cofio'r Mimosa - o raglen cyfarfod y dadorchuddio, Medi 27, 2008:

    Y Freuddwyd
    Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymfudodd llu o Gymry i'r Unol Daleithiau ond er eu bod yn well eu byd roedd llawer ohonynt yn pryderu am barhad eu Cymreictod a'u fordd o fyw.

    Tyfodd y syniad, yn enwedig ymysg Cymry Ohio o sefydlu gwladfa gwbl Gymraeg. Hyrwyddwyd y bwriad yn frwd gan Michael D Jones ac eraill a hefyd Cymdeithas Wladychol Lerpwl, a ffurfiwyd yn 1861.

    Penderfynwyd sefydlu gwladfa yng ngogledd ddwyrain Patagonia ar lan yr Afon Camwy lle roedd llywodraeth Yr Ariannin yn barod i gynnig tir i'r mewnfydwyr. Yma gallent wireddu eu dymuniad o sefyldu cymdeithas hollol Gymraeg ei naws.

    Daeth y mwyafrif o'r ymfydwyr o siroedd Morganwg a Chaerhirfryn, ond ychydig ohonynt oedd yn meddu ar unrhyw brofiad o drin y tir. Ynghyd a theuluoedd yr oedd rhai unigolion dibriod. I bawb ohonynt roedd y fenter yn cynnig dihangfa o galedu bywyd a chyfle i ddiogelu eu iaith a'u traddodiadau.

    Y Llong
    Adeiladwyd y Mimosa yn 1853 gan Alexander Hall a'i Feibion yn Aberden. Ei pherchnogion oedd Vining & Killey, Lerpwl.

    Mimosa - cwch o eiddo'r gwladfawyr yw'r un gwyn  dan yr hwyl yn y cefnO rhyw 450 tunnell defnyddiwyd hi yn bennaf i gyrchu swgwr o Brasil a the o China.

    Ond ei mordaith enwocaf oll oedd cludo yr ymfudwyr o Lerpwl i Batgonia yn 1865.

    Y Fordaith
    Hwyliodd o Lerpwl ar ddydd Sul, Mai 28 1865, a chyrraedd Patagonia ddau fis yn ddiweddarach, mordaith o rhyw 7,000 o filltiroedd.

    Ar y llong, oedd wedi ei haddasu i gludo ymfudwyr, roedd 160 Gymru, gan gynwys nifer o blant.

    Ymysg y criw o 21 roedd tri a fwriadau aros yn y Wladfa. Ynghyd a'r Capten, George Pepperell (25 oed) yr oedd meddyg ifanc, Thomas Greene (21 oed).

    Ar y fordaith bu farw pump o blant a ganwyd dau.

    Yn ystod y fordaith cafwyd dwy ystorn enbyd, un yn ymyl Sir Fôn a llall ar arfordir Yr Ariannin.

    Daeth y llong i ddiogelwch y Bae ar ddydd Gwener, Gorffenaf 2, lloches sydd heddiw yn dwyn yr enw Porth Madryn.

    Y Wladfa
    Glanfa ddigon anial a wynebodd yr ymfudwyr, a thaith bellach o rhyw ugain milltir cyn cyrraedd pen y daith, lle heddiw saif tref Rawson, canolfan talaith Chubut.

    Gyda mewnlifiad pellach o ymfudwyr sefydlwyd trefi Trelew a'r Gaiman yn ddiweddarach.

    Yn 1885 sefydlwyd cymuned yn Cwm Hyfryd, wrth draed Yr Andes.

    Er caledi y blynyddoedd cynnar, llifogydd erchyll a chynaeafau gwael, ac wedi hir ymdrech llwyddodd Y Wladfa ac erbyn heddiw mae tua 150,000 o bobl o dras Gymreig yn byw ym Mhatagonia.

    Sbaeneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth ond er hynny mae'r iaith Gymraeg yn dal yn fyw yn y Dyffryn.






  • cysylltiadau
    Elan yn dadorchuddio'r Mimosa yn Lerpwl

    Rhagor o straeon Patagonia

    de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy