bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu yng Nghwm Jones!.
Robert Humphries yn sôn am aduniad teuluol yng nghefn gwlad Wisconsin

Gorffennaf 2005
Ar benwythnos braf y mis Gorffennaf hwn bu pererindod yng nghefn gwlad talaith Wisconsin.

Daeth tua 200 o bobl o bob cornel o'r Unol Daleithiau a Chanada i Spring Green ar gyfer aduniad teulu Lloyd-Jones.

Go brin bod angen imi ddweud bod gwaed Cymreig ganddyn nhw - ac un o'r teulu ydy fy ngwraig, Jenafer, sy'n briod a mi, bachgen o Gasnewydd, ers pum mlyneddl.

Rydym wedi sefydlu ein cartref yn Spring Green ac ychwanegu aelod newydd i'r teulu: ein merch fach, Rhiannon.

Cwm JonesOnd nid yw'r teulu Lloyd-Jones yn deulu cyffredin. Er mai Frank Lloyd Wright, pensaer Americanaidd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, yw'r aelod enwocaf mae eraill o'r teulu wedi ennill eu lle yn hanes America hefyd.

Anrhydeddu yr hynafiaid
Bob pum mlynedd, mae cannoedd o ddisgynyddion yr arloeswyr gwreiddiol yn dod i'r "Cwm" i anrhydeddu eu hynafiaid a gladdwyd ym mynwent Unity Chapel - hen gapel y teulu.

Mae'r cefndryd yn dathlu gyda cherdd, sgwrs a digon o fwyd ac eleni cafodd y teulu a'i ffrindiau eu diddanu gan grŵpCantorion Cambrian The Cambrian Singers o Madison a'r canwr Bruce Bradley, Cymro arall sy'n byw yn Spring Green.

Canwyd nid yn unig yr hen ffefrynnau ond rhai caneuon nad oedd neb yma wedi eu clywed o'r blaen!

Mae anrhydeddu'r hynafiaid yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i deulu'r Lloyd-Jones ac hefyd groesawu'r plant newydd ac eraill sy wedi ymuno â'r teulu ers yr aduniad blaenorol.

Cyrhaeddodd yr aduniad ei anterth mewn gwasanaeth Undodaidd mewn pabell y tu allan i Unity Chapel gan fod y capel ei hun rhy fychan i gynnwys yr holl deulu.

Hanes teulu
Mudodd Richard a Mallie Lloyd-Jones o Rydowen ger Llandysul, i'r America, yn 1844.

Yn Undodwyr yng nghanol y "Smotyn Du," gadawodd Richard a Mallie fywyd caled o dlodi a therfysgoedd Beca.



Y CapelI ddangos penderfyniad ei deulu, mabwysiadodd Richard yr arwyddair, "Y gwir yn erbyn y Byd" o weithiau Iolo Morganwg.

Wrth gwrs, ni fu bywyd yn America yn hawdd.
Sefydlodd y teulu ei dyddyn cyntaf yn Ixonia, yn anialwch Wisconsin lle'r oedd Jenkin, brawd Richard, yn byw eisoes.

Ar ôl marwolaeth Jenkin ac anghytundeb gydag Undodwyr eraill yn y gymuned, symudodd y Lloyd-Joneses i'r gorllewin.

Yn y 1860au, cartrefodd Richard a Mallie a'u deg o blant - Thomas, John, Margaret, Mary, Anna, Jenkin, Ellen, Jane, James ac Enos - mewn cwm ger Spring Green.

Heddiw, mae eu disgynyddion yn galw'r lle yn serchog, "The Valley."

I bobl eraill yr ardal, aeth y cwm yn "The Valley of the God-Almighty Joneses!."

Rhyfel cartref
Roedd y bywydau'r genhedlaeth hon yn hollol nodedig. Gwasanaethodd Jenkin ym Myddin yr Undeb yn ystod y Rhyfel Cartref ac wedyn daeth yn weinidog Undodaidd enwog iawn yn Chicago.

Ar ôl ei brofiad milwrol, trodd Jenkin yn heddychwr ac roedd ei safiad yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn un dadleuol.

Heddiw, mae Undodwyr yr UDA yn ei gofio fel un o arweinyddion pwysicaf yr enwad.

Ysgol breswyl
Sefydlodd Jane ac Ellen ysgol breswyl yn y cwm; Hillside Home School, a ddaeth yn enwog drwy'r wlad am flaengaredd ei chwrs addysg.

Credai'r chwiorydd yn athroniaeth "dysgu drwy wneud," a dysgwyd sgiliau ymarferol i'r bechgyn a'r merched mewn pynciau traddodiadol.

Gweithredwyd yr ysgol gan y chwiorydd o 1887 hyd 1917.

Yr enwocaf
Wrth gwrs, y Lloyd-Jones enwocaf ydy Frank Lloyd Wright, mab Anna.

Daeth yn bensaer pwysicaf yr ugeinfed ganrif yn yr America.

Does gen i ddim digon o le yma i drafod ei holl fywyd ond mae'n werth dweud i'w fodrybedd a'i ewyrthod fod yn ddylanwad mawr arno.

Rwyf i wedi cael fy nghroesawu'n gynnes i'r teulu fel - a'r tafod yn y foch - "chosen one".

Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wrth fy modd i bod yn rhan o fywyd y teulu hynod hwn.

Fel bob Cymro sy'n byw dramor, rwy'n dioddef o hiraeth am Gymru ond bum yn ffodus iawn i ddarganfod cariad fy mywyd a'i theulu.
Teulu Americanaidd sy'n falch iawn o'i wreiddiau Cymreig




cysylltiadau
Frank Lloyd Wright - barddoniaeth mewn maen a phren

ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy