bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
28ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ystafell Cofio Goronwy ymhell o gartref
Maen nhw'n dal i gofio Goronwy Owen yn yr Unol Daleithiau - ond nid yn gymaint am ei farddoniaeth ond ei afradlonedd

O Fôn i Virginia ar drywydd Goronwy Owen.
gan Grahame Davies

Mae 'na dref lle mae bardd dadleuol o Gymro yn cael ei anrhydeddu, lle ceir cofebau iddo, cyhoeddiadau amdano, a lle y cynhelir digwyddiad blynyddol er cof amdano.

Ond nid yng Nghymru mae'r dref hon, ond yn hytrach yn Virginia yn yr Unol Daleithiau. Williamsburg yw'r dref, a Goronwy Owen yw'r bardd, un a fu'n obaith mawr barddoniaeth Gymraeg ei ddydd.

Y dydd hwnnw oedd y ddeunawfed ganrif, pan oedd ysgolheigion a llenorion Cymraeg yn ceisio dod o hyd i rôl i'r iaith mewn byd modern. Roedd yr hen strwythur cymdeithasol o lysoedd a beirdd yr uchelwyr yn dadfeilio, gan adael barddoniaeth Gymraeg heb noddwyr.

Angen arweinydd

Nod unigolion fel teulu'r Morrisiaid a chymdeithasau fel y Cymmrodorion oedd profi y gall barddoniaeth Gymraeg oroesi yn y byd modern, gan ddal ei thir yn erbyn y Saesneg, y Ffrangeg a'r Almaeneg.

Roedd angen arweinydd symbolaidd arnyn nhw, ac fe gawsant eu harwr pan ddaeth bardd ifanc disglair o Ynys Môn at eu sylw.

Ganed Goronwy Owen i rieni gweddol dlawd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn 1722, a thrwy gyfuniad o'i dalent ei hun a chymorth y teulu Morris, ysgolheigion a noddwyr llên lleol, fe ddaeth yn hyddysg yn y clasuron ac yn feistr ar y mesurau caeth Cymraeg.

Dawn, dysg a dyfalbarhad
Ond y byd modern oedd hwn; doedd uchelwyr ddim yn cadw beirdd Cymraeg i'w moli bellach. Roedd Goronwy angen bywoliaeth. Ble gwell nag Eglwys Loegr a gynigiai incwm rheolaidd, statws cymdeithasol a digon o amser i sgwennu?

Fe ordeiniwyd Goronwy yn offeiriad.

Roedd ganddo ddawn, dysg a dyfalbarhad. Ac roedd ganddo gefnogaeth ffrindiau pwerus. Ond, yn anffodus, roedd ganddo hefyd natur gwerylgar, hoffter o'r botel ac arfer o ddenu anffawd.

Y ColegMethodd â chael plwyf ar ei ynys enedigol ac, ar ôl gwasanaethu fel curad mewn plwyfi yn Lloegr, fe benderfynodd fentro i'r trefedigaethau. Hwyliodd yn 1757 gyda'i wraig a'u tri bachgen i Virginia, lle roedd wedi cael cynnig swydd yng Ngholeg William a Mary, yr ail goleg hynaf yng ngogledd America.

Ond daeth anlwc i'w ganlyn. Bu farw ei wraig ac un o'i blant ar y fordaith, marwodd bachgen arall yn fuan ar ôl iddo lanio, ac wedyn fe farwodd ei ail wraig ryw naw mis ar ôl iddo ailbriodi.

Dadleuol fu ei yrfa yn y coleg hefyd. Er gwaetha'i barchus, arswydus swydd fel offeiriad, a'i safle fel darlithiwr, fe gymerodd ran mewn terfysg rhwng bechgyn y coleg a bechgyn y dref, ac yn 1760 fe adawyd iddo adael y coleg a chael bywoliaeth plwyf gwledig yn Brunswick County.

Priodi am y trydydd tro
Yno, fe briododd am y trydydd tro, ac fe ymddengys iddo ganfod mesur o sefydlogrwydd, gan gyfuno ei waith fel offeiriad gyda'i ddyletswyddau fel tyfwr tybaco ac yn berchennog ar bedwar o gaethweision. Fe fu farw yn 1769 yn 46 oed.

Ond roedd ei farddoniaeth wedi aros ar ôl yng Nghymru. Dim ond un gerdd a ysgrifennwyd ganddo tra'r oedd yn America, marwnad ddirdynnol i'w noddwr, Lewis Morris, lle mae ei hiraeth am Fôn yn amlwg.

Cofio ei fywyd afradlon
Yn Virginia heddiw, fe gofir Goronwy yn gymaint am ei fywyd afradlon ag am ei barddoniaeth.

Yn Brunswick County, caiff pererinion llenyddol ymweld â'i fedd, a gweld cofeb iddo a godwyd gan Seiri Rhyddion America. Ceir hyd yn oed ymweld â'r ty lle y treuliodd ei flynyddoedd olaf. Mae'r safleoedd wedi eu marcio ar fapiau twristiaid y sir.
Yn y llyfrgell ar gampws coediog Coleg William a Mary ceir coflech i'r bardd, ac fe gedwir yr ystafell lle y darlithiodd y Monwysyn i'w ddisgyblion yn union fel yr oedd yn y 18fed ganrif.

I'r ystafell hon y deuthum i roi darlith Wyl Ddewi flynyddol y gymdeithas Gymreig leol crynodeb o hanes barddoniaeth Gymraeg, gan gynnwys gwaith Goronwy ei hun, wrth gwrs.

Yn y cyntedd tu allan ceir coflechi yn coffau myfyrwyr o'r coleg a aeth i frwydro yn rhyfel annibyniaeth America, saith mlynedd yn unig wedi marwolaeth Goronwy.

Ceir coflech hefyd i fyfyrwyr a staff a frwydrodd dros y Confederacy yn rhyfel cartref America, ryw ganrif yn ddiweddarach. Ceir nifer o enwau Cymreig ar y gofeb.



David OwenDisgynydd uniongyrchol
Un enw Cymreig a safodd allan ymysg y Cymry alltud a'r Americanwyr yn y gynulleidfa ar gyfer y ddarlith oedd Owen. Mae Mr David Owen yn ddisgynydd uniongyrchol i Goronwy drwy'r unig un o feibion y bardd i dyfu'n oedolyn yn America.

Mae wedi ymweld â Chymru wyth o weithiau, gan gynnwys ymweliad â'r bwthyn yr honnir iddo fod yn gartref i'w gyndaid enwog.

Doedd dim ots ganddo fod fy narlith wedi crybwyll enw Goronwy fel llymeitiwr.

Wedi'r cyfan, ei gymeriad lliwgar, yn gymaint â'i farddoniaeth, sy'n golygu bod ei enw yn dal yn chwedl yn Virginia dros ddau gan mlynedd ers ei farwolaeth a thros dair mil o filltiroedd i ffwrdd o'r ynys y bu arno gymaint o hiraeth amdani.






ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy