BBC HomeExplore the BBC

29 August 2014
Accessibility help
Text only

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Beti George yn cyfweld â'r Dr. Gwynfor Evans (4.32)

Beti George yn siarad â'r diweddar Dr Gwynfor Evans am y Cynulliad, mewnfudwyr a'r iaith Gymraeg

* Awgrymir eich bod yn ystyried Trafod i) cyn gwrando ar yr uned hon.

GEIRFA
galluogi; gwleidydda; cenhadu dros; llywydd; heddychwr; perfeddion; amherthnasol; taeogrwydd; affwysol; Cynulliad; adfer; hollt; mewnfudwyr; lleiafrif; trefnydd; llawn amser; ymroi; meddyginiaeth

GWRANDO A DEALL
i) Beth oedd gwaith pob dydd Gwynfor Evans?
ii) Pam aeth i fyw i Sir Gâr?
iii) Beth sy'n bod ar y Cymry, yn ôl Gwynfor?
iv) Beth oedd e'n gobeithio y byddai'r Cynulliad yn ei gyflawni?
v) Beth oedd ei farn am yr honiad bod sefydlu'r Cynulliad wedi hollti Cymru?
vi) Beth oedd ei farn am fewnfudwyr?
vii) Faint o fewnfudwyr sydd yn Sir Fôn?
viii) Beth oedd nod mudiad 'Pont'?

IAITH

a) Yn y darn fe glywch y berfenw 'gwleidydda'. Pa ferfenwau yn gorffen ag -a sy'n dod o'r enwau a ganlyn:
cardod; mwyar; diod; gwledd; merlod; busnes; cinio?

b) Pa eiriau sy'n gyfystyr yn y ddwy golofn?
hollt sicrwydd
perfedd dybryd
meddyginiaeth gwaseidd-dra
affwysol canol
galluogi moddion
hyder rhwyg
taeogrwydd hwyluso

c) Yn y cyfweliad mae Gwynfor yn sôn am ganrannau (%). Dysgwch: 20% - ugain y cant; 40% - deugain y cant; 60% - trigain y cant. Beth yw 80%; 100%?

TAFODIAITH
Beth yn eich barn chi yw oedran y siaradwr yn y cyfweliad hwn? Pa brawf sydd gennych i ategu eich barn. Faint o ôl tafodiaith sydd ar ei iaith lafar?

TRAFOD
i) * Casglwch wybodaeth am Gwynfor Evans. Pob aelod o'r dosbarth i ychwanegu brawddeg at y darlun yn ei dro.
ii) Oes digon o gefnogaeth i fewnfudwyr sydd am ddysgu Cymraeg? Awgrymiadau!
iii) 'Mae'r Cynulliad yn gwneud gwaith da'. Trafodwch.

YMADRODDION
ym mherfeddion y wlad; perfedd nos ; mynd i berfedd rhywbeth.

YSGRIFENNU
Portread o wleidydd pwysig.
Cymwynaswyr y Gymraeg.

TRAWSGRIFIAD
Fe fuodd e ar un cyfnod yn dyfwr tomatos, y tomatos gore a welodd y byd erioed, yn ei farn e. Roedd y gwaith hwnnw yn ei alluogi i dreulio rhan fwya o'r amser yn gwleidydda ac yn cenhadu dros Blaid Cymru, y bu'n Llywydd arni am dri deg chwech o flynyddoedd. Roedd e'n heddychwr cyn iddo fod yn wleidydd, rhywbeth a achosodd gryn drafferth iddo fe a'i rieni yn Y Barri adeg y rhyfel a'r rheswm iddo fynd i fyw i berfeddion y wlad yn Sir Gâr. Priodi Rhiannon; hebddi hi, medde fe, fydde fe byth wedi gallu gneud yr hyn na'th e dros Gymru. Dim ond un Gwynfor sy'. Mae'r Evans yn amherthnasol ac fe es i draw ato i'w gatre, Talar Wen, ym Mhencarreg.

Mae 'na ryw daeogrwydd yn bod yng Nghymru, ryw ddiffyg hyder affwysol yn bod yma yng Nghymru a un o'r gobeithion sydd gen i y bydd y Cynulliad hwn ... fel y bydd e'n gweithio'n dda, a fel y bydd e'n tyfu ... y bydd y Cynulliad hwn yn adfer hyder ymhlith mwyafrif mawr pobol Cymru. Dyna sydd eisie fwya arnon ni.

A beth am yr hollt yma maen nhw'n dweud nawr sydd wedi cael ei achosi, yndife, sef hollti Cymru lawr yr hanner?

Wel, does 'na ddim hollt fel'na mewn gwirionedd achos fe bleidleisiodd deugain y cant o bobl dwyrain Cymru dros y Cynulliad, dim cymint â hynny yn llai na phobl gorllewin Cymru, felly ryw stori fach, myth, yw'r hollt 'ma.

Wrth gwrs, y mewnfudwyr hefyd yndife, mae 'na gynifer ohonyn nhw wedi dod i fewn i Gymru, yn enwedig ar yr ochor ddwyreiniol ond, wrth gwrs, 'da ni'm fod sôn am rhain yn effeithio ar y bleidlais ond mae'n rhaid bod 'na effeth wedi bod ar y bleidlais?

O, mae'n siwr, o achos mae 'na gannoedd o filoedd ohonyn nhw, hyd yn oed yn Sir Fôn. Mae yn agos i gwarter poblogaeth Môn wedi'u geni yn Lloegr. Saeson y'n nhw, ac mae hyn yn wir hyd yn oed am yr ardaloedd gwledig ffordd hyn. Lleiafrif onid e o'r mewnfudwyr yma sy'n fodlon toddi i'r gymdeithas Gymraeg, felly?

Ia, mae hynny'n wir er i ni gychwyn mudiad i geisio cael llawer iawn mwy ohonyn nhw.

'Pont'?

'Pont' oedd enw'r mudiad, ie, ac mae 'na ganghenne yn dal i fod ym Mhont ond doedd dim - o'n ni ddim yn gallu fforddio cael trefnydd llawn amser, wrth gwrs, ac mae'n anodd iawn cadw mudiad fel'na i fynd heb hynny. Ond, beth oedd y mudiad yna'n neud oedd ceisio cael mewnfudwyr i gryfhau bywyd Cymru, i ymroi i'r bywyd Cymreig, a nhw achosodd y broblem yma yn y lle cyntaf. Nhw fydda'r feddyginiaeth, ac mae llawer, wrth gwrs, wedi ymateb. Mae'n rhaid dweud bod 'na gannoedd lawer ohonyn nhw sydd wedi dod yn Gymry ardderchog. Mae'r rheini i gael trwy'r wlad ond lleiafrif bach y'n nhw o'r rhai sydd wedi dod i mewn.

Wrth gwrs, o'ch chi'n cael y'ch beirniadu ar un adeg fel arweinydd y blaid nad oedd ddim yn gallu denu y di-Gymraeg yn y cymoedd?

Ie, wrth gwrs o'n ni'n cael ein cyhuddo o fod yn blaid i'r Cymry Cymraeg ac oedd e'n wir. Oedd llu o bobol yn dweud na allen nhw ddim perthyn i'r Blaid am nad oedden nhw'n siarad Cymraeg. Fe ddywedodd llawer hynny wrtho i ac felly pan ofynnodd Saunders Lewis yn ei ddarlith enwog 'Tynged yr Iaith' ym 1962 i'r Blaid ymgyrchu o blaid yr iaith mewn ffordd uniongyrchol, torri'r gyfraith ac yn y blaen, o'n i ddim yn gallu cytuno o achos fydde hynny'n neud ni'n fwy byth o fudiad iaith ac fydde'r Blaid fel plaid wleidyddol yn methu ac felly fe sefydlwyd, gan aelodau o'r Blaid, aelodau ifanc o'r Blaid fel John Davies a Teddy Millward ac eraill, fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith a dyna oedd y ffordd ragorol o weithredu ac maen nhw wedi bod yn arwrol, wrth gwrs, eu gweithrediade. Mae ymhell dros fil ohonyn nhw wedi bod yn y carchar. Wel, mae hwnna'n siarad drosto'i hun. Does dim ysbryd fel'na wedi bod yng Nghymru ers canrifoedd lawer.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy