BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Sgwrs â Ray Gravell am actio (4.40)

Y cyn-chwaraewr rygbi a darlledwr, Ray Gravelle yn sôn am ei yrfa fel actor

GEIRFA
ben bore; swyddogol; cyflwynydd; dynwared; mynwesol; portreadu; disgyblaeth; ta pwy bynnag; rhwydd; cynhyrchydd; cyfarwyddwr; prifardd; plasty; paradwys; her; hynaws; penigamp; boddhad; greddfol

GWRANDO A DEALL
i) Ar ba adeg o'r dydd roedd Gaynor yn siarad â Ray Gravell?
ii) Faint o hyfforddiant actio gafodd Ray?
iii) Ble a phryd actiodd e gyntaf?
iv) Pwy ofynnodd iddo ymddangos ar y teledu gyntaf?
v) Ydy actio'n hawdd, yn ôl Ray?
vi) Ym mha ddrama cafodd e ei ran fawr gyntaf?
vii) Pwy sgrifennodd y ddrama honno?
viii) Ble roedden nhw'n ffilmio?
ix) Oedd e'n hyderus pan ddechreodd e actio?
x) Pwy oedd wedi actio gyda Tele Sevalas?
xi) Beth oedd gwaith Richard Bonner?

IAITH
a) Pa air a glywsoch chi yn y darn ac a restrir isod sy'n cyfleu'r canlynol?
penigamp; paradwys; her; prifardd; hynaws; dynwared; plasty; greddfol

Gweithredu heb feddwl.
Ardderchog
Dymunol
Rhywbeth anodd mae'n rhaid ei wneud.
Lle perffaith
Tŷ anferth
Bardd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Siarad a symud fel rhywun arall.

b) Ffurfiwch ferfenwau o'r enwau yn (i) ac ansoddeiriau o'r rhai yn (ii): i) cynhyrchydd: her; portread; disgyblaeth; cyfansoddwr. ii) mynwes; swyddog; greddf.

c) Beth yw'r ymateb cadarnhaol a negyddol (Ie / Nage etc.) i'r cwestiynau a gosodiadau canlynol?

Welaist ti'r rhaglen neithiwr?
Am saith o'r gloch est ti?
Maen nhw yn y tŷ.
Yn y bath roedden nhw.
Ddylech chi ennill?
Fydd y plant yn dod?
Roedden ni'n hwyr ddoe.
Fuest ti allan neithiwr?
Faswn i'n eu hadnabod hi?
Teifion Davies?

TAFODIAITH
Mae dau berson yn sgwrsio yn y darn hwn. Pa dystiolaeth sydd gennych i brofi bod un ohonynt yn dod o'r gogledd a'r llall o'r de? Nodwch eich rhesymau.

Ffurf dafodieithol ar 'ynteu' yn ne Cymru yw 'ta'. Ar lafar mae 'ni waeth pa /pwy' > ta pa / ta pwy. Mae pwy bynnag /beth bynnag / p'un bynnag > ta pwy / ta beth / ta p'un. Hefyd mae 'tua' > sha. P'un o'r siaradwyr sy'n defnyddio'r ffurfiau hyn?

TRAFOD
i) Mewn grwpiau, rhannwch yr wybodaeth sydd gennych am Ray Gravell.
ii) Cyfweld ag aelod arall o'r dosbarth gan ganolbwyntio ar ryw ddawn neu ddiddordeb sydd ganddo / ganddi.
iii) Recordiwch gyfweliad â rhywun yn eich stryd / cymuned.

YMADRODDION
ben bore; yn y bore bach; oriau mân y bore; codi'n fore; o fore gwyn tan nos; bore oes.

YSGRIFENNU
Chwaraewyr / athletwyr sydd wedi gwneud enw mewn maes arall.
Drama deledu fwynheais i.

Bora 'ma, wel, dw i am ddechra drwy sgwrsio â Ray Gravell. Bore da i chi, Ray.

Gaynor, bore da. Bore dydd Mawrth da i ti a shwt wyt ti?

Dw i'n dda iawn diolch. Sut 'da chi ar fore, wel, ben bore fel hyn?

Wel, ar y ffordd - ar ôl gorffen y sgwrs nawr fydda i'n mynd strêt mewn i'r gawod a wedyn 'ny, bach o frecwast, gwisgo a mynd mewn i'r stiwdio a diolch am yr alwad cynnar 'ma.

Croeso cynnes i chi!

Mae'n bleser. Mae'n bleser. Ga i ddweud yn syth dw i ddim yn actor swyddogol, fel petai. Dw i ddim wedi cael y'n hyfforddi fel actor o gwbwl ond . . .

Ond na, mae'r het yn ffitio yndydy? Mae gynnoch chi sawl het. 'Da chi'n gyflwynydd Radio Cymru, Radio Wales, 'da chi'n gyn-chwaraewr rygbi ond 'da chi yn, mae'n rhaid ni gofio, hefyd wedi bod yn actio yn y fflimie. Pryd wnaethoch chi gynta ta, Ray?

Wel, ddechreuodd y peth - y tro cynta erioed i fi gael rhan, ... wel, fel actor, fel fi'n hunan 'de, mwy neu lai, oedd nôl, wel, deng mlynedd ar hucen nawr: Pobol y Cwm, 1975 - 'na'r flwyddyn ges i'n ddewis i whare dros Gymru. Cynhyrchydd Pobol y Cwm, yn wir y bachan - y person ddechreuodd Pobol y Cwm, John Hefin - fe ofynnodd John i fi os bydden i'n fodlon dod ar, dod fewn i'r gyfres fel y'n hunan a mewn i'r Deri Arms, a'r pryd 'ny roedd rhaglen boblogedd iawn ar HTV, Miri Mawr, ac o'n i'n dynwared un o'r cymeriade, sef Caleb: "Gwranda 'ma, byti boi ....", a'n ffrind i, ffrind mynwesol i, Dafydd Hywel, Hywel Evans, fe oedd yn portreadu'r cymeriad yma yn y siwt 'na chi'n mbod. Es i mewn i . . . . flasu'r byd 'na - wel, fi'm yn acto, ond oedd rhai o'r actorion yn Pobol y Cwm yn acto ond o fod ar y set, oedd e'n wahanol ddisgyblaeth, Gaynor.

Ydy siwr. Oeddach chi'n mwynhau o, felly?

Wel, oedd e'n rwybeth newydd sbon i fi a dw i'n meddwl bo ni i gyd, ta pwy bynnag y'n ni, ta ble bynnag y'n ni, yn meddwl o bryd i'w gilydd, diawch chi, allen ni neud 'na. Dyw e ddim mor rhwydd, dw i'n meddwl, â mae e'n ymddangos. Ond John Hefin - ac rwy'n ddiolchgar iawn i John - gyflwynodd e fi i ryw fyd a ges i ryw brofiad rhyfedd oherwydd e, a diolch i ti John, os yw e'n digwydd bod yn gwrando'r bore 'ma lawr tua Borth 'na yn y Gorllewin pell - West is best, wrth gwrs.

Oedd raid i chi gael ddeud o doedd?

Oedd raid gweud hynna.

Ond fel chi'ch hun oedda chi yn hwnnw, fel oedda chi'n deud ynde, ond mi githo chi ran, wel actio go fawr, os dw i'n cofio'n iawn, ar S4C yndo?

Do.

Hon oedd y gynta wedyn?

Wel ie, oedd hi'n gynhyrchiad BBC Cymru i S4C, drama o'r enw 'Bonner'. Richard Bonner, a John Hefin unwaith eto, John oedd y cynhyrchydd a fe oedd yn cyfarwyddo, a Siôn Eirian - y prifardd enillodd y goron yn '78 yng Nghaerdydd - Siôn sgrifennodd y ddrama 'ma. Oedd hi'n ddrama gymhleth iawn a oedd y lleoliad yn wych - hen blasdy Syr Harry Llywelyn lan tua Abergafenni. O'n ni 'na am fis ac roedd actorion profiadol iawn yn y ddrama yna ond y fi oedd â'r brif ran a o'n i'n meddwl - diawch .... wel oedd hwnna .... wel oedd hwnna fel bod mewn paradwys i ddweud y gwir yn onest.

Oedda chi'n nervous o gymyd y rhan, Ray? O'n!

Oedda chi?

Wel, yn ofnadw i ddechre hefyd. Oedd 'na un, wel sawl actor yn y peth, ond Meg Wyn Owen - oedd Meg Wyn Owen yn actores, mae hi yn actores brofiadol dros ben, wedi bod mewn ffilmie mawr gyda Telly Savalas.

Wnaethon nhw gymyd dipyn o berswâd i chi neud yr un gynta 'na, y'ch chi, achos oeddach chi'n gwbod mi fasa pawb yng Nghymru yn mynd i edrych arnoch chi ac yn meddwl amdano chi fel y chwaraewr rygbi, wrth gwrs. Oeddach chi ofn 'sa chi'n disgyn fflat ar y'ch gwyneb 'lly neu nithoch chi feddwl, na mae hwn yn her newydd, mae'n rhaid i fi neud yno?

Wel, oedd e'n her newydd, oedd e yn brofiad arall er o'n i 'di cael ryw flas - blas bach oedd 'na - ond y tro 'ma nawr o'n i'n trial portreadu cymeriad y bachan 'ma, colier oedd yn ddi-waith, Richard Bonner, ac wrth gwrs, perswâd John Hefin. Chi'n nabod John, Gaynor. Mae e'n ddyn hyfryd, hynaws iawn a pan fo John yn gofyn i chi yn y modd mae e yn, mae'n amhosib i wrthod e.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy