BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Iolo Williams yn sôn am adar (2.06)

Gerallt Penant yn sgwrsio â'r naturiaethwr, Iolo Williams am adar

GEIRFA
Lefelau Gwent; aber; gwarchodfa; socan eira (fieldfare); coch dan adain (redwing); llifo; aeron; perthi; toreth; drudwennod (starlings); clwydo; anhygoel; clwydfan

GWRANDO A DEALL
i) Ble mae Iolo wedi bod?
ii) Am faint o amser oedd e yno?
iii) Pryd agorwyd y warchodfa ar lefelau Gwent?
iv) Beth oedd Iolo'n ei wneud yno?
v) Pa brawf oedd ganddo fod yr adar yno?
vi) Ar ba adeg o'r dydd oedd e'n ffilmio'r drudwennod?
vii) Tua faint o adar oedd yno?
viii) Ble roedd Bill Oddie wedi bod yn ffilmio?
ix) Sut mae e'n disgrifio siapau'r cymylau o adar?
x) Ble arall yng Nghymru rydych chi'n gallu gweld drudwennod yn ymgasglu?

IAITH
a) Pa air o'r rhestr yma a ddefnyddir am gasgliad o'r canlynol:
haig; buches; gyr; haid; tyrfa; ciwed; praidd.
[Oes rhai o'r termau y gellir eu defnyddio am fwy nag un o'r rhain?]

........................ o adar.
......................... o ddefaid.
......................... o bysgod.
......................... o ladron.
......................... o wartheg / dda
......................... o bobl
......................... o wenyn

b) Mae'r diarhebion a ganlyn wedi eu cymysgu. Cywirwch nhw.
Adar o'r un lliw / ni wna wanwyn
Gwyn y gwêl / y piga'r cyw
Un wennol / hed i'r un lle
Lle crafa'r iâr / y frân ei chyw

c) Weithiau mae Saesneg yn gallu dylanwadu ar gystrawen y Gymraeg.
Ydy cyfeirio at afonydd fel 'y Taf' neu 'yr Elai' yn gywir? Os nad ydy, pam?
ch) Yn aml wrth siarad byddwn yn ychwanegu ymadroddion atodol.
Roedd Iolo, er enghraifft, yn defnyddio, 'siwr o fod'. Dyma ragor y dylech eu nodi:

chwarae teg; a dweud y gwir; at ei gilydd; 'sbosib (does bosib); heb os; hyd y gwn i; yn ôl pob tebyg; gwaetha'r modd; wrth reswm.

TAFODIAITH
Pa brawf sydd gennych wrth wrando ar y sgwrs fod y ddau siardawr yn dod o'r gogledd?

TRAFOD
i) 'Mae gwarchodfeydd natur yn fwy o ddrwg nag o les'. Trafodwch.
ii) Gwnewch restr o'r enwau adar rydych chi'n eu gwybod. Cymharwch restrau eich gilydd a nodwch unrhyw enwau sy'n newydd i chi.
iii) Rhaglenni gan naturiaethwyr ar y teledu. Eich barn?

YMADRODDION
byth a beunydd: y cwbl lot; treulio amser; gyda'r hwyr; yn union r'un peth.

YSGRIFENNU
Yr adar yn fy ngardd.
Ymweld â gwarchodfa natur.
Bywyd gwyllt ein hardal.

TRAWSGRIFIAD
Do, 'di treulio pedwar dwrnod wythnos yma lawr ar Lefela Gwent. Mae'r warchodfa fan'na, gafodd ei hagor, be, yn nwy fil, wel, neud i fyny oeddan nhw neu trio neud i fyny am foddi adar yr Afon Taf a'r Afon Elai fan 'ma yng Nghaerdydd a mae'r warchodfa yn un wych, chware teg.

Lawr yn dechra ffilmio oeddan ni ac - dduda i be sy'n od eleni ydy bod, yn yr ardal yma, lawr yn y de beth bynnag, bod Socan Eira a'r Coch Dan Adain yn hwyr iawn yn dod i mewn. Ges i dipyn ohonyn nhw'n llifo mewn yn hwyr y pnawn dydd Mercher - clywed y gân, y sîp, sîp fatha'r Coch Dan Adain a'r chwc-chwc-chwc fel mae'r Socan Eira'n neud.

Dipyn o Goch Dan Adain wedi dod i mewn ers hynny ond chydig iawn o'r Socan Eira ond o'dd 'na chydig ohonyn nhw lawr ar Lefele Gwent yn bwydo ar yr aeron ac unwaith eto mae'r perthi 'ma'n doraith o aeron cochion ond yno oeddan ni gyda'r hwyr i ffilmio'r drudwennod yn mynd mewn i glwydo a githon ni ryw bum deg mil ohonyn nhw ac mae o'n atgoffa fi o - mae'n rhaid bod amball un wedi gweld Bill Oddie ryw flynadd, dwy flynadd yn ôl, pan oedd o lawr - dw i'm yn cofio lle roedd o, ddim yn bell o Slimbridge rwla oedd o, dw i'n meddwl, yn edrach ar ddrudwennod yn mynd mewn i glwydo gyda'r nos a oedd o union run peth i lawr ar Lefela Gwent, lle maen nhw'n neud y cymyla anhygoel yma sy'n newid byth a beunydd. Mae o'n ryw fath o dwnal un munud, mae o'n gwmwl crwn munud nesa ag oeddan nhw'n mynd yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen am yn siwr o fod ryw hanner awr cyn yn sydyn iawn, mae un yn penderfynu cwmpo mewn i'r rhes ac a'th y cwbwl lot o fewn ryw bymtheg eiliad wedyn, felly. Ellwch chi weld hwnna fan hyn wrth gwrs. Mae o yng Nghonwy weithia. Dw i'm yn siwr os ydyn nhw yng Nghonwy 'leni, Malltraeth, Aberystwyth, llefydd felly, ac mae - os oes 'na glwydfan drudwennod yn agos ato chi, mae'n werth mynd gyda'r nos i weld yr adar yma.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy