BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Pobl ifanc Gwent yn sôn am y Gymraeg (1.35)

Disgyblion Ysgol Gwynlliw, Gwent yn esbonio eu hagwedd iach at y Gymraeg

GEIRFA
yn bennu lan o arfer arferiad ymateb cwestiynu

GWRANDO A DEALL
i) Oedd y merched yn yr un ysgol gynradd cyn mynd i Ysgol Gwynlliw?
ii) Beth maen nhw'n ei wneud sy'n anarferol?
iii) Beth fyddai'n annaturiol iddyn nhw ei wneud?
iv) Ble dechreuodd un o'r merched a'i dwy chwaer ddysgu Cymraeg?
v) Faint o Gymraeg sydd gan eu tad?
vi) Beth maen nhw'n gobeithio y bydd ymateb pobl i'w penderfyniad?
vii) Beth yw gobaith un o'r merched?
viii) Sut mae pobl y gogledd yn eu gweld, yn ôl un ferch?

IAITH
a) Mae cenedl rhai enwau yn amrywio yn ôl ardal. Beth mae pobl yn ei ddweud yn eich ardal chi?
dau funud dwy funud
y dafarn y tafarn
y cyngerdd y gyngerdd
y gornel y cornel
dwy emyn dau emyn
nifer mawr nifer fawr
angladd mawr angladd fawr
y dudalen y tudalen

b) Mae acenion yn gallu bod yn bwysig. P'un o'r rhain sy'n gywir?
glân y mor glan y môr
caniatâd caniatad
caniatáu caniatau
glowr glöwr
glöwyr glowyr
coffáu coffàu

c) Cwblhewch y frawddeg drwy ddewis y gair cywir:
i) Doedd e ................ wedi ymweld â Rwsia.
a) byth b) gynt c) erioed ch) o flaen
ii) Aeth Twm a Mari i'r sinema ......................
a) gyda'u gilydd b) i'w gilydd c) gyda'i gilydd
iii) Colli wnaethoch chi, mae'n siwr. ........... , wrth gwrs.
a) Ie b) Do c) Ydy
iv) Pryd cyrhaeddodd y bws ........................
a) Caerdydd b) yng Nghaerdydd c) Gaerdydd
v) Dof i adref cyn naw o'r gloch .................
a) neithiwr b) heno c) echnos

TAFODIAITH
Mae rhai yn mynnu bod plant ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain yn datblygu eu tafodiaith eu hunain. O wrando ar y darn hwn, pa sylwadau byddech chi'n eu gwneud o dan y penawdau GEIRFA, CYSTRAWEN, TREIGLADAU, DEFNYDD O'R SAESNEG.

TRAFOD
i) Oes disgwyl i blant o gartrefi di-Gymraeg sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg siarad yr iaith â'i gilydd y tu allan i'r ysgol? Trafodwch.
ii) Gwnewch restr o'r pethau sy'n anodd i ddysgwyr mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brin?
iii) Oes rhaid siarad yn berffaith er mwyn cyfathrebu?

YSGRIFENNU
Lluniwch restr o 10 o bethau fyddai'n helpu dysgwyr Cymraeg yn eich ardal chi.
Y tro cyntaf i mi gael sgwrs yn Gymraeg oedd ...............

TRAWSGRIFIAD

Mae grŵp ni o ffrindiau wedi dod o pob gwahanol ysgol gallwch chi feddwl o. Ni fel 'the outcasts' o pob ysgol a ... rywfodd, rywsut, ni jyst gyd wedi bennu lan yn siarad Cymraeg gyda'n gilydd, jyst allan o arfer fel bydd pobol yn siarad Saesneg gyda'i gilydd allan o arfer. Felly, does dim byd od i ni bod ni yn siarad Cymraeg tu fas ysgol, jyst sort o arferiad yw e - you know, dim byd allan o'i le. Y peth mwyaf od yw siarad Saesneg gyda'n gilydd. S'no fi'n teimlo'n iawn os ni'n siarad Saesneg gyda'n gilydd. Yn ... yn wreiddiol wnes i dod o teulu Saesneg ond wnaeth mam dysgu Cymraeg a danfon ni gyd, y tair o ni, i Ysgol Meithrin Cymraeg ... ym, a wedyn - so mae dad, oherwydd bod e wedi, sort o, dod i'r arfer o glywed Cymraeg, mae fe'n deall beth mae pobol - beth ni'n dweud ond dyw e ddim yn gallu ymateb yn ôl trwy'r Gymraeg. Os ni ddim yn siarad Cymraeg, bydd neb arall yn, a w i'n teimlo fel os ni yn siarad Cymraeg bydd fwy o pobol yn siarad Cym . . gweld ni'n siarad Cymraeg a wedyn bydd nhw yn cwestiynu fel: A dyle fi fod yn siarad Cymraeg? A wedyn, gobeithio, os mae fel plant ysgol ni yn dechre siarad Cymraeg gyda'i gilydd, a tu allan ysgol a mae mwy o pobol . . os mae Ysgol Uwchradd arall Cymraeg yn agor, bydd hwnna'n gwell ar gyfer Casnewydd. Bydd fwy o ethos Cymraeg yn dod a gobeithio bydd Cymraeg yn dod nôl i Gwent achos mae Gwent y rhan o Cymru sy'n fwya Saesneg mewn Cymru, a ... ym ... o'r Gogledd rydyn ni'n cael ein gweld fel pobol Saesneg a .. s'no ni ddim achos ni yn siarad Cymraeg.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy